Home » Ymchwil newydd i effeithiau Covid-19 ar addysg yng Nghymru
Cymraeg

Ymchwil newydd i effeithiau Covid-19 ar addysg yng Nghymru

Mae effeithiau’r pandemig ar addysg plant yn destun tair astudiaeth ymchwil arbennig gan arbenigwyr addysg ar draws Cymru, yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth.

Nod yr astudiaeth gyntaf yw archwilio sut mae ysgolion wedi ymateb i ofynion dysgu o bell a chyfunol, adnabod arfer da, ac ystyried gwersi i’w dysgu ar gyfer ysgolion yn ogystal ag ar gyfer hyfforddi athrawon newydd yn y dyfodol.

Bydd ymchwilwyr ar ail astudiaeth yn edrych ar yr effaith y mae cau ac ailagor ysgolion yn raddol wedi’i gael ar ddysgwyr, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hystyried yn ddifreintiedig.

Ffocws y trydydd prosiect fydd pwyso a mesur effaith cyfyngiadau Covid-19 ar ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn benodol felly’r rhai hynny sy’n byw mewn cartrefi di-Gymraeg.

Fel rhan o’r gwaith, mae ymchwilwyr yn siarad gydag athrawon, disgyblion, rhieni a gofalwyr er mwyn clywed am eu profiadau uniongyrchol nhw.

Bydd casgliadau’r ymchwil, a ddechreuodd yn Hydref 2020 ac sy’n cael ei ariannu gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru, yn cael eu cyflwyno i’r llywodraeth ym mis Mai 2021.

online casinos UK

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Rwy’n falch iawn o’r ffordd mae prifysgolion yng Nghymru wedi cyfrannu at gefnogi’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r coronafeirws yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd yr ymchwil diweddaraf yma yn helpu i ddangos sut mae’r pandemig wedi effeithio ar ein pobl ifanc a’n cyfundrefn addysg, a sut gallwn ni fel llywodraeth ddysgu ac addasu yn y dyfodol.”

Mae’r ymchwil ar gyfer y tair astudiaeth yn cael ei wneud ar y cyd gan nifer o brifysgolion ar draws Cymru sy’n cynnig cyrsiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

• Astudiaeth Ymchwil 1:  Pwyslais cynyddol ar ddysgu o bell / cyfunol –  Prifysgolion Aberystwyth, De Cymru a Glyndŵr Wrecsam.

• Astudiaeth Ymchwil 2: Archwilio effaith cau ac ailagor ysgolion yn raddol oherwydd Covid-19 ar ddysgwyr, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hystyried yn ddifreintiedig – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS), Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor.

• Astudiaeth Ymchwil 3: Effaith Covid-19 ar ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn benodol felly’r rhai hynny sy’n byw mewn cartrefi di-Gymraeg – Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth a PCDDS.

Dywedodd Dr Siân Lloyd-Williams o Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth, aelod o’r tîm sydd wedi derbyn grant o £70,000 tuag at y gwaith hwn: “Mae Covid-19 wedi gorfodi newid yn ein dulliau dysgu a’n haddysgu yn ein hysgolion, gan arwain at heriau i ysgolion, dysgwyr, rhieni a gofalwyr. Mae gennym lawer i’w ddysgu o’r cyfnod hwn a thrwy gynnal y dair astudiaeth ymchwil yma, y nod yw gallu gwneud argymhellion defnyddiol ar gyfer y sector yn ogystal â nodi’r gefnogaeth sydd ei hangen wrth i ni baratoi myfyrwyr ar ein cyrsiau at ddyfodol yn y maes addysgu.”

Mae Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth yn cynnig hyfforddiant cychwynnol i athrawon sy’n dymuno gweithio yn y sector cynradd ac uwchradd, gan arwain at gymhwyster Tystysgrif Addysg i Raddedigion. Mae manylion pellach i’w cael ar-lein: www.aber.ac.uk/cy/education/itt-pgce

Author