Home » Ymestyn y rhaglen profi cymunedol i reoli brigiadau o achosion
Cymraeg

Ymestyn y rhaglen profi cymunedol i reoli brigiadau o achosion

Bydd y rhaglen profi cymunedol yn cael ei hymestyn hyd ddiwedd mis Medi i helpu i reoli brigiadau o achosion a thargedu ardaloedd sy’n gweld cynnydd cyflym mewn achosion, dyna gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd heddiw (dydd Llun 22 Mawrth).

Mae profion wedi’u cynnal ar gyfer unigolion asymptomatig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ers dechrau mis Mawrth ac mae cynlluniau hefyd ar y gweill yn Ynys Môn mewn ymateb i’r brigiad o achosion yng Nghaergybi.

Canfu gwerthusiad o’r cynllun peilot o brofion asymptomatig ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf y llynedd gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod y profion yn gost effeithiol iawn ac wedi cyfrannu at leihad mewn cyfraddau achosion coronafeirws. Amcangyfrifwyd bod tua 353 o achosion, 24 derbyniad i’r ysbyty, 5 derbyniad i’r Uned Gofal Dwys ac 14 marwolaeth, wedi’u hosgoi.

Mae datblygiadau hefyd ar y gweill i wella ein profion mewn cymunedau drwy roi mynediad at becynnau profi i bobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref a helpu i adnabod achosion coronafeirws asymptomatig a diogelu pobl wrth inni lacio’r cyfyngiadau’n raddol. Bydd y rhain ar gael i’w casglu o leoliadau lleol ac i’w danfon i gartrefi yn fuan a byddant yn sicrhau bod profion asymptomatig rheolaidd yn gyfleus ac yn hygyrch ar gyfer unrhyw un nad ydynt yn gallu cael prawf yn y gweithle.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Gwyddom nad yw hyd at un o bob tri o bobl sydd â coronafeirws yn sylwi ar unrhyw symptomau o gwbl ac felly gallant ei ledaenu yn ddiarwybod iddynt.

“Er bod ein rhaglen frechu yn gwneud cynnydd da, mae profion yn parhau i fod yn ganolog i’n hymateb i’r pandemig i’n helpu i adnabod unigolion heintus a rheoli brigiadau o achosion yn fwy effeithiol.

online casinos UK

“Drwy ddarparu safleoedd profi cymunedol a chynllunio i gyflwyno pecynnau profi i bobl sy’n gorfod gadael eu cartrefi i fynd i’r gwaith, rydym yn ei gwneud yn fwy hygyrch a chyfleus i gael prawf.

“Rwy’n croesawu canlyniadau cynllun profi peilot Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy’n dangos bod ein rhaglen profi cymunedol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran lleihau trosglwyddiad yr haint, yn cefnogi ymdrechion i olrhain cysylltiadau, yn diogelu unigolion agored i niwed ac yn helpu i arafu neu atal lledaeniad coronafeirws.

“Mae’r mesurau newydd yn rhan o’n blaenoriaeth ‘profi i ddarganfod’ fel rhan o’n Strategaeth Brofi.”

Author