Dylai effaith ar y Gymraeg fod yn ystyriaeth ym mhob deddf ac ym mhob polisi sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru – dyna fydd neges Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
“Fe greodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, rôl y Comisiynydd a chyfundrefn reoleiddio newydd a fydd, maes o law, yn arwain at greu hawliau i siaradwyr Cymraeg. Ond er mwyn i statws swyddogol i’r iaith Gymraeg fod yn rhywbeth real y gall pobl Cymru ei weld, ei glywed a’i deimlo ym mhob agwedd ar eu bywydau, mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yn ystyriaeth ganolog ym mhob maes polisi.
“Mae Aelodau’r Cynulliad wrthi’n trafod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn y Senedd ar hyn o bryd; ac rwy’n galw am sicrhau bod yna gyfeiriad at y Gymraeg yn weladwy ar wyneb y Bil hwnnw sy’n effeithio’n uniongyrchol ar bobl a phlant.
“Os ydym o ddifrif ynglŷn â dod â’r Gymraeg i ganol y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yng Nghymru, yna mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yn weladwy mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r economi, cyfiawnder cymdeithasol, addysg, iechyd, gofal ac yn y blaen. Dyw’r Gymraeg ddim yn fater all gael ei ynysu i un darn o ddeddfwriaeth iaith.
“Rai wythnosau yn ôl fe ges i’r pleser o groesawu An Coimisinéir Teanga, Comisiynydd y Wyddeleg, Seán Ó Cuirreáin, i Gymru, a chawsom gyfle i drafod yr union bwnc yma. Beth sy’n ddiddorol yw iddo ef ddweud nad y ddeddf a sefydlodd ei rôl yw’r unig un sy’n rhoi pŵer iddo, ond y ffaith bod yna gyfeiriad at yr iaith Wyddeleg ym mhob darn o ddeddfwriaeth sy’n cael ei phasio yn Iwerddon. Rhaid i Gymru hefyd symud tuag at y pwynt yna.”
Add Comment