Home » Yr Urdd yn ennill gwobrau am un o’r ‘negeseuon mwyaf grymus’ yn hanes y Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Cymraeg

Yr Urdd yn ennill gwobrau am un o’r ‘negeseuon mwyaf grymus’ yn hanes y Neges Heddwch ac Ewyllys Da

YN SEREMONI wobrwyo Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2021 a gynhaliwyd yn rhithiol heddiw (dydd Gwener, 9 Gorffennaf) dyfarnwyd dwy wobr gyntaf i Urdd Gobaith Cymru am ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021, sef ‘Heddychwyr Ifanc Digidol y Flwyddyn’ a ‘Heddychwyr Ifanc y Flwyddyn’.

Cydraddoldeb i Ferched oedd thema Neges Heddwch y mudiad eleni, a luniwyd gan griw o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe gyda chefnogaeth y bardd a’r awdur Llio Maddocks, yn dilyn gweithdai o dan ofal Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd.

Fe’i rhyddhawyd ar ffurf fideo trawiadol ar y 18fed o Fai, a hynny ar achlysur 99 mlynedd o gyhoeddi’r neges yn ddi-dor. Cyfieithwyd y neges i 65 o ieithoedd ac fe gyrhaeddodd y fideo dros 84 miliwn mewn 59 gwlad, a denwyd cefnogaeth gan lu o sefydliadau ac enwogion clodfawr, gan gynnwys UN Women a Hillary Clinton.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, “Mae derbyn y gwobrau yn anrhydedd mawr i’r Urdd a’r unigolion a gyfrannodd at ein Neges Heddwch ac Ewyllys Da, sef Cydraddoldeb i Ferched. Mi roedd y cydweithio gydag Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn hynod bwerus, a diolch iddynt hwy fe grëwyd un o’n negeseuon mwyaf grymus yn ein hanes.

“Diolch hefyd i’r Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am y gydnabyddiaeth o’r gwaith caled ac am nodi llwyddiant rhannu’r neges ymhell ar draws y byd i dros 59 o wledydd. Ymlaen i ddathlu ein canmlwyddiant yn 2022!”

Eleni oedd chweched seremoni Gwobrau Heddychwyr Ifanc Cymru. Mae’r gwobrau wedi’u trefnu ar y cyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ac yn gyfle i ddathlu cyfraniad cadarnhaol pobl ifanc ledled Cymru at heddwch a dinasyddiaeth fyd-eang. Roedd enillwyr yn derbyn gwobrau am weithiau celf, ysgrifenedig a ffilm, yn ogystal â’u cyfraniadau fel dinasyddion lleol a byd-eang. Gellir gwylio’r seremoni yn llawn ar YouTube.

online casinos UK

Author