Home » ‘Ysbrydoliaeth wirioneddol i ni i gyd’
Cymraeg

‘Ysbrydoliaeth wirioneddol i ni i gyd’

MAE’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi’r bobl ysbrydoledig sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewi Sant.

Ymhlith teilyngwyr eleni y mae grŵp a wnaeth achub pobl a aeth i drafferthion yn y môr yn Aberdyfi y llynedd; grŵp gwirfoddol a gefnogodd eu cymuned leol drwy gydol pandemig y coronafeirws ac artist y daeth ei ddarlun o weithwyr y GIG yn ddelwedd eiconig y flwyddyn ddiwethaf.

Gwobrau cenedlaethol Cymru yw Gwobrau Dewi Sant, sy’n dathlu llwyddiannau eithriadol pobl Cymru.

Wrth gyhoeddi’r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant eleni yn grŵp ysbrydoledig o bobl yr ydym yn lwcus i’w cael yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod heriol i lawer ohonom. Mae pandemig y coronafeirws wedi achosi llawer o dristwch a thorcalon – ond mae hefyd wedi ysgogi’r gorau ymhlith llawer o bobl. Mae’r grŵp hwn o bobl o bob cwr o Gymru, yn ysbrydoliaeth wirioneddol i ni i gyd.

“Eleni, rydym wedi ychwanegu categori newydd i ddathlu cyfraniad ein gweithwyr hanfodol. Mae miloedd o bobl wedi gweithio’n ddiflino ac yn anhunanol drwy gydol y pandemig i’n cadw ni fynd yn ystod cyfnod anodd dros ben. Rwyf mor ddiolchgar am bob gweithred o garedigrwydd, boed yn fach neu’n fawr. Ni allem fod wedi ymateb yn y ffordd y gwnaethom hebddynt.”

Categorïau’r gwobrau eleni yw: Dewrder; Busnes; Ysbryd y Gymuned; Diwylliant a Chwaraeon; Gwobr Ddyngarol; Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Person Ifanc; Gweithiwr Hanfodol a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar-lein ddydd Mercher, 24 Mawrth.

Y teilyngwyr yw:

Dewrder

Alun Edwards, Arwel Jones, Drew Nickless a Josh, Will ac Ollie Brown

Cafodd gwirfoddolwyr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) Arwel, Drew ac Alun gymorth y brodyr Josh, Will ac Ollie pan aeth dau grŵp gwahanol o bobl i drafferthion yn y môr yn Aberdyfi brynhawn Sul yr haf diwethaf. Gwnaeth eu hymateb cyflym achub bywydau saith o bobl.

online casinos UK

Mark Smith, Geoff Handley ac Adam Handley

Achubodd Mark, ynghyd â’r tad a’r mab Geoff ac Adam, fywyd menyw a oedd wedi’i dal ar do ei char ar ôl iddo suddo yn nŵr yr afon yn Nhrefynwy yn ystod llifogydd na welwyd eu tebyg o’r blaen.

John Rees, Lisa Wray ac Ayette Bounouri

Gwnaeth John, Lisa ac Ayette ymddwyn yn anhunanol a chyda dewrder anhygoel wrth amddiffyn eu hunain ac eraill yn ystod ymosodiad cyllell angheuol yn siop Co-op ym Mhenygraig yn 2020. Yn drasig, collodd John ei fywyd wrth geisio achub bywydau pobl eraill.

Busnes

Tîm Peirianneg Gofynion Cyfarpar Hanfodol

Ar ddechrau pandemig y Coronafeirws, gwnaeth cynrychiolwyr nifer o wahanol sefydliadau ffurfio tîm Peirianneg Gofynion Cyfarpar Hanfodol i helpu i ddod o hyd i gadwyni cyflenwi cadarn ar gyfer eitemau i’r sector iechyd a gofal, megis feisorau, masgiau wyneb, sgrybs, gynau a hylif diheintio. Gwnaethant hefyd hyrwyddo arloesedd ym maes dyfeisiau meddygol.

The Blaenafon Cheddar Ltd (Charlotte Hill)

Yn ystod y pandemig, mae’r teulu Hill wedi gweithio’n agos gyda busnesau lleol eraill i greu siop ar-lein a oedd yn hyrwyddo ac yn gwerthu cynnyrch lleol.

Little Inspirations Ltd

Cwmni o dde Cymru sy’n darparu gwasanaethau gofal plant yw Little Inspirations. Yn ystod y pandemig, gwnaethant aros ar agor a chydweithio â saith awdurdod lleol i ddarparu gofal plant i weithwyr hanfodol a theuluoedd sy’n agored i niwed.

Ysbryd y Gymuned

Elizabeth (Buffy) Williams a Chanolfan Pentre

Grŵp gwirfoddol yw’r Ganolfan sy’n gweithredu yn y Rhondda Fawr o dan arweiniad Buffy. Yn ystod 2020, fe wnaethant gydlynu cymorth i ddioddefwyr llifogydd y gaeaf ac ymateb i bandemig COVID-19 drwy ddarparu pecynnau cinio dyddiol, bagiau ymwybyddiaeth ofalgar i blant a dosbarthu pecynnau gofal i’r gymuned.

Gwasanaeth Deial i Deithio Sir Ddinbych

Mae’r gwasanaeth gwirfoddol hwn yn darparu cludiant o ddrws i ddrws i’r rhai yn y gymuned sydd ag anabledd, nam neu’r rhai na allant ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ystod y pandemig, mae’r gwasanaeth wedi bod yn wirioneddol allweddol i lawer yn y gymuned gyda gwirfoddolwyr hefyd yn darparu presgripsiynau ac yn gwneud y siopa dros bobl.

Dr Mahaboob Basha

Mae Dr Basha yn eiriolwr hirdymor dros y gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ymgyrchydd cymunedol ac yn wirfoddolwr banc bwyd. Yn ystod y pandemig, dosbarthodd dros 1400 o bresgripsiynau a pharseli bwyd i’r rhai mewn angen. Helpodd deuluoedd mewn profedigaeth hefyd i gynllunio angladdau yn ystod yr argyfwng.

Gweithiwr Hanfodol

Cartref Gofal Cherry Tree

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, gadawodd naw aelod o staff yng nghartref gofal Cherry Tree eu teuluoedd am chwe wythnos i symud i mewn gyda’r preswylwyr yn y cartref gofal yng Nghoed-poeth, yn y Gogledd. Aeth y gofalwyr y filltir ychwanegol i ddiogelu eraill, gan aberthu eu hamser gyda’u teuluoedd eu hunain i roi sicrwydd i’r rhai o dan eu gofal ac i leihau’r risg o haint.

Matthew’s House

Mae’r elusen yn cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned drwy ddarparu prydau bwyd, cawodydd, golchdy a phecynnau urddas. Yn ystod y pandemig, sefydlodd yr elusen ymgyrch o’r enw Swansea Together gan ddod â dros 50 o elusennau, busnesau a gwirfoddolwyr lleol at ei gilydd, gan ddosbarthu dros 18,000 o brydau poeth i bobl mewn llety dros dro.

Trudy Fisher

Cydlynydd prosiect Gofalwyr Ifanc Rhondda Cynon Taf yw Trudy. Bu’n gweithio’n galed i gefnogi gofalwyr ifanc a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod clo – gan gynnwys trefnu grantiau ar gyfer trydan a bwyd. Dosbarthodd Trudy wyau Pasg i’r plant, trefnodd sesiynau Zoom wythnosol i helpu gyda’u hiechyd meddwl a threfnodd anrhegion Nadolig a thalebau bwyd.

Diwylliant a Chwaraeon

Delwyn Derrick
Delwyn yw sylfaenydd Clwb Pêl-droed Bellevue yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sef clwb pêl-droed aml-ethnig sy’n canolbwyntio ar gynhwysiant. Mae Delwyn yn defnyddio chwaraeon i ddod â phobl o gefndiroedd amrywiol at ei gilydd, gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches a’r bobl hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu.

Kate Woolveridge, Forget Me Not Chorus
Y gantores opera Kate yw sylfaenydd yr elusen, “Forget Me Not Chorus”, Caerdydd, sef côr i bobl â Dementia a’u gofalwyr. Erbyn hyn mae gan yr elusen 11 côr ledled Cymru – yn y gymuned, mewn cartrefi gofal ac mewn ysbyty. Yn ystod y pandemig, gwnaeth Kate yn siŵr nad oedd aelodau’r côr yn teimlo’n ynysig drwy gynnal cyngherddau mewn meysydd parcio/gerddi cartrefi gofal yn ogystal â threfnu sesiynau Zoom.

Nathan Wyburn
Yn ystod y pandemig, gwnaeth yr artist Nathan Wyburn greu portread o nyrs mewn cyfarpar diogelu personol llawn gan ddefnyddio delweddau bach iawn o weithwyr gofal iechyd. Yn gyflym iawn, daeth y darlun eiconig hwn yn ddelwedd y mae llawer o bobl yn ei chysylltu fwyaf â’r cyfnod hwn. Rhoddwyd y ddelwedd ar gredydau agoriadol y sioe deledu boblogaidd This Morning a hefyd Good Morning America a The Today Show yn Awstralia.

Gwobr Ddyngarol

Angharad Paget Jones

Mae Angharad, ymgyrchydd hawliau anabledd o Bort Talbot, wedi defnyddio ei phrofiad ei hun o fyw gyda cholled golwg difrifol i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu’r rhai sydd â nam ar eu golwg. Mae’n gweithio gyda phedwar heddlu Cymru i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb anabledd yn dilyn camdriniaeth a wynebodd yn ystod y cyfnod clo coronafeirws cyntaf.

Hazel Lim

Hazel yw sylfaenydd Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd. Yn dilyn diagnosis ei mab gydag Awtistiaeth, gwyddai Hazel fod Awtistiaeth yn bwnc tabŵ a bod ganddo stigma enfawr yn y diwylliant Tsieineaidd. Mae Hazel yn brwydro i newid y canfyddiad hwnnw ac mae’n ymgyrchu i roi cymorth i blant a’u teuluoedd sydd ei angen.

John Puzey

Mae John wedi bod yn Gyfarwyddwr Shelter Cymru ac yn ymgyrchydd tai blaenllaw ers dros 30 mlynedd. Mae wedi goruchwylio twf a datblygiad yr elusen i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau cyngor ar dai yn ogystal â chodi ei phroffil ymgyrchu a pholisi. O dan ei arweiniad, ymatebodd Shelter Cymru yn gyflym i argyfwng COVID-19, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau wedi parhau ar waith a bod pob ffynhonnell cyllid brys wedi’i sicrhau.

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Prosiect Hylif Diheintio Dwylo

Roedd prinder hylif diheintio dwylo ar ddechrau’r pandemig, oherwydd cynnydd o ran y galw. Daeth tîm ym Mhrifysgol Abertawe at ei gilydd i gynhyrchu hylif diheintio dwylo a fyddai’n cyrraedd safonau Sefydliad Iechyd y Byd. Ers hynny mae’r tîm wedi cynhyrchu 34,000 litr sydd wedi’i ddosbarthu i fwy na 100 o sefydliadau.

Y Fenter Ymchwil Busnesau Bach ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ysgogwyd y cydweithio hwn rhwng Canolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar ddechrau’r pandemig pan oedd angen brys i gyflymu amseroedd glanhau ambiwlansys. Mae’r cydweithio wedi arwain at leihad enfawr yn yr amser a gymerir i lanhau ambiwlansys.

Her Peiriannau Anadlu Cymru

Daeth gweithwyr o Siemens ac Airbus at ei gilydd ym mis Mawrth 2020 yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC Cymru) ym Mrychdyn i drawsnewid y cyfleuster yn llinell gydosod i gynhyrchu peiriannau anadlu meddygol ar raddfa ddigynsail. Diolch i’r cydweithio hwn, dosbarthwyd cyfanswm o 13,437 o beiriannau anadlu i’r GIG.

Person Ifanc

Casey-Jane Bishop

Mae Casey-Jane yn 16 oed o Gymoedd y De ac yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Mae Casey-Jane wedi ymgyrchu yn erbyn bwlio yn dilyn blynyddoedd o fwlio yn yr ysgol ac wedi dod yn Llysgennad Ifanc i’r elusen, Bullies Out.

Ethan Hutchings

Helpodd Ethan, sy’n 12 oed, i achub dyn rhag boddi yn yr afon yng Nghwmafan, Castell-nedd Port Talbot, yn ystod yr haf. Ar ôl dod ag ef i’r lan yn ddiogel, helpodd Ethan i roi adfywiad cardio-pwlmonaidd i’r dyn nes i’r gwasanaethau brys gyrraedd. Mae Ethan hefyd yn dioddef o ganser y thyroid ac roedd wedi bod yn gwarchod ei hun am 12 wythnos cyn y digwyddiad.

Molly Fenton – Ymgyrch Love Your Period

Mae Molly yn 18 oed o Gaerdydd a sefydlodd ymgyrch Love Your Period gyda’i chwaer Tilly (12) i roi terfyn ar dlodi a stigma mislif i ddisgyblion ysgol ledled Cymru. Bellach mae hi’n cynnig cyngor i ysgolion a Llywodraeth Cymru yn ogystal â Chyngor Caerdydd. Bu’n siarad mewn digwyddiadau ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o’r stigma a hyrwyddo urddas mislif.

Author