Home » Cynnig cyfranddaliadau cymunedol – dros £100,000 wedi’i fuddsoddi mewn dim ond tair wythnos!
Business Business Community Community Cymraeg National News Pembrokeshire West Wales

Cynnig cyfranddaliadau cymunedol – dros £100,000 wedi’i fuddsoddi mewn dim ond tair wythnos!

MAE’r cynnig cyfranddaliadau cymunedol ar gyfer Siop Bwydydd Cyflawn yn Nhrefdraeth, Sir Benfro wedi cael dechrau gwych. Mae dros £100,000 tuag at y targed o £375,000 wedi ei godi mewn tair wythnos, ac mae mwy na 70 o unigolion a sawl cwmni bellach yn gyfranddalwyr.

Mae’n newyddion gwych hefyd, er ei bod yn bosibl dod yn gyfranddaliwr gyda buddsoddiad o £100, mae’r buddsoddiad cyfartalog ar hyn o bryd yn uwch na’r targed o £1,000 y person.

“Rydym wrth ein bodd i weld y dechreuad gwych a wnaed hyd yn hyn. Doedden ni byth yn disgwyl codi dros 25% o’n targed mewn dim ond tair wythnos,” meddai Anna Brown, Cyfarwyddwr Project Wholefoods, y gymdeithas budd cymunedol sy’n arwain y prosiect.

“Mae hyn yn dyst i faint mae’r gymuned leol ac ymwelwyr yn caru y Siop Bwydydd Cyflawn yn Nhrefdraeth, a’r bwlch enfawr y byddai’n ei adael ar stryd fawr arbennig iawn yma pe bai’n cau.”

“Mae fy mam a minnau wedi rhoi ein bywyd a’n henaid i wneud Siop Bwydydd Cyflawn Trefdraeth yr hyn ydyw dros yr 11 mlynedd diwethaf, ond mae cynlluniau ymddeoliad yn golygu bod angen i ni ei werthu neu ei gau i lawr yn yr hydref,” meddai’r cyd-berchennog Clare Thomas .

“Felly mae’n newyddion gwych bod cymaint o bobl eisoes wedi buddsoddi i ddiogelu ei dyfodol fel siop bwydydd cyflawn trwy bryniant cymunedol. Bydd yr holl staff presennol yn cadw eu swyddi os bydd y cynnig cyfranddaliadau yn llwyddiannus, ac rydym wedi ein cyffroi gan y cynlluniau sydd gan y tîm o wirfoddolwyr yn y prosiect yma ar gyfer ei wneud yn lle gwell fyth i siopa.

“Mae Siop Bwydydd Cyflawn Trefdraeth yn ganolbwynt i’r siopau annibynnol sy’n gwneud Trefdraeth mor arbennig,” meddai Rachel o Drewyddel, Sir Benfro. “Mae’n darparu man gwerthu i’n tyfwyr a’n pobyddion lleol yn ogystal â stocio pethau sylfaenol a chynhwysion cwpwrdd storio mwy egsotig. Fe wnes i fuddsoddi oherwydd hoffwn warchod yr arlwy amrywiol sy’n dod o gael siopau o bob math yn ein trefi bach.”

Ond does dim rhaid i chi fyw yn lleol – neu hyd yn oed yn y DU – i ddod yn gyfranddaliwr!

“Er bod gan archfarchnadoedd a chanolfannau siopa eu lle, rwy’n gredwr brwd bod angen i ni gefnogi busnesau, tollau a masnach lleol pryd bynnag a lle bynnag y bo modd, ni waeth ym mha ran o’r byd yr ydym yn byw,” meddai Shona o Brisbane, Awstralia. “Mae hyn yn arbennig o wir mewn tref fel Trefdraeth lle mae cymaint o bleser i’w gael o grwydro i lawr y stryd fawr, a mynd i mewn ac allan o’r gwahanol siopau bach, a gwerthfawrogi popeth maen nhw’n ei gyfrannu i’r gymuned.

Pan ddaeth cyfle i fod yn rhan o bryniant cymunedol Siop Bwydydd Cyflawn Trefdraeth, allwn i ddim dala nol. Nid yn unig y bydd fy nghyfraniad bach yn helpu i’w hatal rhag cau, ond rwyf bellach yn cael y teimlad cynnes o wybod fy mod yn berchen ar ddarn bach o Gymru yn fy arddegau. Nawr nesaf  byddaf yn gweithio ar fy Nghymraeg i ddod i ymweld a Threfdraeth un diwrnod yn fuan.”

online casinos UK

Os offech chi ymuno â’r nifer cynyddol o fuddsoddwyr yn Siop Bwydydd Cyflawn Trefdraeth, gallwch ddod yn gyfranddaliwr am swm cychwynnol o £100. Mae rhagor o wybodaeth ar www.projectwholefoods.cymru/cymraeg/buddsoddi

Author