MAE croeso twymgalon i ymwelwyr ac eisteddfodwyr rif y gwlith yn ystod wythnos brysur ar stondin yr FUW fydd yn cynnwys arddangosiadau coginio, cwis amaethyddol, trafodaeth gan arbenigwr gwlȃn a negeseuon cerddorol ynghylch diogelwch fferm gyda’r annwyl Welsh Whisperer.
Dywedodd Dirprwy Swyddog Gweithredol Sirol UAC dros Gwent a Morgannwg, Gemma Haines: “Fel un o’r ardal sydd wedi ail afael yn ei Chymraeg mae cael bod yn rhan o drefniadau Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer yr Eisteddfod wedi bod yn gyffrous iawn.
“Rydym yn awyddus i ddod ag ychydig o fywyd cefn gwlad i ardal boblog Pontypridd yr wythnos hon gan atgoffa trigolion lleol, teuluoedd ac ymwelwyr o le’n union mae ei bwyd yn dod.
“Byddwn yn atgoffa pobl am bwysigrwydd safon bwyd ac am y broses o ofalu ac ymddwyn yn ddoeth yng nghefn gwlad. Byddwn hefyd yn rhoi sylw i ddiogelwch ar y fferm, a hynny ar ffurf cȃn.
“Amaethwyr yw ceidwaid cefn gwlad, a thrwy ddod a Thegwen y fuwch liwgar draw i faes yr Eisteddfod ein gobaith yw cynnig paned, diod oer a chyfle i bobl a theuluoedd gael gorffwys, sgwrsio a hamddena ar ein stondin gan wneud yr FUW yn gyrchfan i oedi a chael pum munud o brysurdeb yr Ŵyl.
“Mae hi’n fraint o’r mwyaf i ni allu croesawu eisteddfodwyr yma i ardal Rhondda Cynon Taf. Mae’r gwaith paratoi a’r codi arian gan y gymuned wedi bod yn anhygoel a phenllanw’r holl waith fydd yr wythnos hon. Dewch draw i’n stondin yn ystod yr wythnos i’n gweld,” meddai Gemma Haines.