Home » Pwyllgor yn unfrydol o gefnogi datganoli darlledu
Business Cymraeg Politics

Pwyllgor yn unfrydol o gefnogi datganoli darlledu

RHAID i Gymru gael mwy o lais o ran sut mae darlledu yn cael ei ariannu a’i reoleiddio os ydym am ddatblygu cyfryngau sy’n gwasanaethu ac yn cynrychioli’r wlad yn iawn.

Dyna yw casgliad ymchwiliad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, a gyhoeddwyd mewn adroddiad heddiw, 11 Mawrth 2021.

Bu’r ymchwiliad yn ystyried sut y gellir cryfhau llais Cymru, yn enwedig o ran penderfyniadau ynghylch cyllido a phennu cylch gwaith gwasanaethau – i gynnwys y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a ariennir gan ffioedd trwydded, sef BBC Cymru Wales, S4C a’r drydedd sianel, ITV Cymru – yn ogystal â thrwyddedau radio masnachol, a sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi’r sector newyddiaduraeth yn well.

Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn unfrydol yn eu casgliad bod yn rhaid i’r Senedd a Llywodraeth Cymru ennill pwerau pellach dros ddarlledu – er bod y farn ar faint y datganoli pellach hwnnw yn amrywio – gyda phenderfyniad y dylai’r adroddiad hwn ddarparu man cychwyn pendant ar gyfer rhywfaint o ddatganoli cyfrifoldebau.

Bethan Sayed AS: Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd

Eglura Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, Bethan Sayed AS, fel a ganlyn: “Mae’r cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol. Does gennym ni ddim y ddarpariaeth newyddion a materion cyfoes sydd ei hangen ar Gymru ac mae meysydd eraill – fel cynnwys ar gyfer plant, comedi a drama – hefyd wedi’u tangynrychioli, sy’n golygu nad ydym yn gweld adlewyrchiad o’n hunain ar ein sgriniau. Mae twf y cewri ffrydio byd-eang wedi dod â ffyniant i gynyrchiadau a wnaed yng Nghymru, ond nid yw wedi gwneud llawer i gynyddu rhaglenni sy’n portreadu bywydau pobl Cymru yn benodol.

“Mae’r Pwyllgor yn cytuno bod angen mwy o bŵer ar Gymru dros ddarlledu, er mwyn sicrhau y gallwn ddatblygu’r cyfryngau sydd eu hangen arnom fel cenedl; mae rhai’n ffafrio datganoli pwerau darlledu i’r Senedd yn llawn, ac eraill o blaid pwerau newydd mwy cyfyngedig mewn meysydd penodol.

“Roedd yn amlwg yn ôl y dystiolaeth a gawsom gan ddarlledwyr, cwmnïau cyfryngau ac academyddion yn yr ymchwiliad hwn nad yw’r strwythurau presennol yn gweithio i Gymru, ac mae’r Pwyllgor wedi dod i’r casgliad bod angen mwy o lais ar Gymru ym mhob maes darlledu. Mae hyn yn cynnwys yn benodol, datganoli S4C a phob mater arall sy’n ymwneud â darlledu Cymraeg er gwasanaeth cyhoeddus, i Gymru. Y teimlad a gawsom yn sgil y dystiolaeth yw ei bod ond yn iawn fod penderfyniadau ynghylch y cyfryngau a darlledu i bobl yng Nghymru yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, a hoffem weld pwyllgor â pholisi’r cyfryngau’n rhan ganolog o’i gylch gwaith yn y Chweched Senedd.

online casinos UK

“Mae’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn darparu man cychwyn i’r fenter hon ac mae’r Pwyllgor yn annog y Senedd a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, i fynd i’r afael â’r mater hwn. Ein cyfrifoldeb ni i gyd yw cyfrannu syniadau ymarferol er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg hwn – i weithio gyda’n gilydd fel gwleidyddion, darparwyr cyfryngau a rheoleiddwyr i wneud yn siŵr fod gan Gymru lais cryf dros y cyfryngau sydd eu hangen arni.”

Mae’r adroddiad yn nodi 10 argymhelliad at ei gilydd, gan gynnwys y canlynol:

  • Barn y Pwyllgor yw y byddai rhoi mwy o gyfrifoldebau darlledu i’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gwella darpariaeth y cyfryngau yng Nghymru yn sylweddol. Dylai Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Ofcom nodi sut y gellir gwella’r cynnwys a ddarperir ar y cyfryngau i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Os nad ydyn nhw’n cefnogi datganoli darlledu ymhellach, rhaid iddyn nhw egluro pa newidiadau o dan y trefniant cyfansoddiadol presennol y dylid eu gwneud i gynyddu maint ac ansawdd cyfryngau Cymru.
  • Dylai Llywodraeth y DU ddatganoli pwerau dros S4C a materion eraill sy’n ymwneud â darlledu Cymraeg er gwasanaeth cyhoeddus, i Gymru.
  • Dylai Llywodraeth y DU reoleiddio gwasanaethau ffrydio byd-eang i gryfhau’r ecosystem cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Gallai rheoleiddio o’r fath gynnwys ardollau i ariannu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, neu ofynion i ddarlledu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus. Dylai Llywodraeth y DU ystyried ymestyn ardollau i gynnwys cwmnïau ar-lein mawr eraill, fel peiriannau chwilio a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i sefydlu cronfa ganolog barhaus i gefnogi newyddiaduraeth newyddion sy’n atebol ac sy’n cael ei darparu o hyd braich er mwyn sicrhau didueddrwydd.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, ac mae dadl wedi’i threfnu yn ei gylch yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021.

Author