Home » Ymchwiliad Covid-19 y DU yn dechrau ymchwiliad i’r penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru ar ddechrau 2020
Cymraeg Politics

Ymchwiliad Covid-19 y DU yn dechrau ymchwiliad i’r penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru ar ddechrau 2020

MAE YMCHWILIAD Covid-19 y DU wedi agor Modiwl 2B heddiw, a fydd yn archwilio penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd llywodraeth Cymru mewn ymateb i bandemig Covid-19 rhwng dechrau Ionawr 2020 a Mai 2022. 

Bydd yr Ymchwiliad yn archwilio’r penderfyniadau a wnaed gan grwpiau ac unigolion allweddol o fewn y llywodraeth yng Nghymru gan gynnwys Prif Weinidog Cymru a Gweinidogion eraill Cymru. Bydd yr Ymchwiliad yn rhoi sylw arbennig i ddechrau mis Ionawr a diwedd mis Mawrth 2020 pan osodwyd y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf. 

Bydd yr Ymchwiliad yn cynnal gwrandawiad rhagarweiniol ddiwedd yr hydref eleni.

Bydd yr Ymchwiliad yn clywed tystiolaeth ar gyfer Modiwl 2, gan ddechrau yn haf 2023. Wedi hynny bydd yn clywed tystiolaeth gan dystion yng Nghymru.

Bydd Modiwl 2 yn rhoi sylw arbennig i’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth San Steffan. Bydd Modiwl 2A yn archwilio proses llunio penderfyniadau llywodraeth yr Alban, a Modiwl 2C yn canolbwyntio ar Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. 

Meddai’r Farwnes Heather Hallett, Cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU: “Mae’r Ymchwiliad wedi dechrau ei ymchwiliadau Modiwl 2B, gan graffu ar benderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd llywodraeth Cymru. Bydd modiwlau cysylltiedig yn caniatáu imi edrych ar benderfyniadau a wnaed ar gyfer y DU, ac yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

online casinos UK

“Bydd fy nhîm a minnau yn darganfod beth a ddeellid am Covid-19 ar y pryd, pa wybodaeth oedd ar gael yng Nghymru, a sut a pham y gwnaed penderfyniadau allweddol, yn enwedig ar ddechrau’r pandemig.

“Byddaf yn cymryd tystiolaeth y flwyddyn nesaf yng Nghymru i greu darlun llawn o’r heriau yr oedd llywodraeth Cymru yn eu hwynebu a sut y dewisodd fynd i’r afael â’r rhain.”

Author