Home » Ariannu newydd ar gyfer Swyddfeydd Post
News

Ariannu newydd ar gyfer Swyddfeydd Post

Ariannu newydd ar gyfer Swyddfeydd PostCYMUNEDAU a’r Gweinidog Tlodi daclo Jeff Cuthbert wedi cyhoeddi newydd i Swyddfeydd Post er mwyn helpu swyddfeydd post ledled Cymru. Mae bron i £340,000 o grantiau cyfalaf yn cael eu rhoi i 32 o swyddfeydd post i’w helpu i gynnal y r’l bwysig sydd ganddyn nhw mewn cymunedau lleol ac i wellaír gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu. Mae’r grantiau hyn gan Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post Llywodraeth Cymru sy’n helpu swyddfeydd post lleol i ehangu eu busnesau a darparu gwasanaethau newydd i’r gymuned. Yn y cais, roedd yn rhaid i’r ymgeisydd ddangos ei fod wedi ymgynghori ‚ir gymuned ynghylch ei gofynion a’i dyheadau a dangos sut mae’n bwriadu arallgyfeirio ei wasanaethau. Ym mis Hydref 2010, llwyddodd Mrs Fay Davies, Pennaeth Swyddfa Bost Williamstown gael grant o £20,000 i ailwampio ei swyddfa bost yno. Yn y rownd ddiwethaf hon o grantiau, bydd y swyddfa bost hon yn cael £20,000 ychwanegol i drosi islawr y swyddfa bost yn siop printio, gosod CCTV ac i baentio tu allan yr adeilad. Wrth wneud sylw am y cyhoeddiad heddiw, dywedodd y Gweinidog: ‘Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd camau i wella cymunedau lleol a chefnogi’r economi. Gyda’r Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post, rydym wedi gallu rhoi cymorth ymarferol i’r bobl fusnes sy’n rhedeg ein swyddfeydd post. Ers ei sefydlu, mae £6.6 miliwn oír Gronfa wedi cael ei roi i 442 o swyddfeydd post ledled Cymru. ‘Mor boblogaidd oedd y gronfa, fe wnaethom benderfynu rhoi rhagor o arian ynddi hi, ond bellach, mae’r Gronfa’n wag. “Dyma’r tro olaf y bydd modd ymgeisio am arian o’r gronfa hon.” Mae’r grantiau a gyhoeddir heddiwín cynrychioli’r rownd derfynol o gyllid. Fe’u rhoddir i swyddfeydd post yn Ynys MÙn, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen.

Author