Home » Gwasanaeth newydd yn cysylltu Aberystwyth a Hwlff ordd
News

Gwasanaeth newydd yn cysylltu Aberystwyth a Hwlff ordd

trawsGAN GYSYLLTU Aberystwyth, Aberaeron, Cei Newydd, Aberteifi , Abergwaun a Hwlffordd, maer gwasanaeth newydd yn disodlir gwasanaethau x50 a 412 ac maen rhan o rwydwaith Traws Cymru syn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn wasanaeth bob awr ym mhob cyfeiriad yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn. Bydd ffl yd o fysiau Optare MetroCity unllawr newydd sy’n defnyddio tanwydd yn fwy effeithiol ac yn fwy ecogyfeillgar yn cael eu cyfl wyno ar gyfer y daith erbyn diwedd Ebrill. Bydd gan bob un o’r cerbydau newydd du mewn fel coets, cyhoeddiadau ar gyfer yr arhosfan nesaf a WiFi am ddim.

Meddai Edwina Hart y Gweinidog Trafnidiaeth: “Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn darparu cysylltiadau pwysig i gymunedau yng Ngheredigion a Sir Benfro. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan ddarparu mynediad i swyddi a gwasanaethau. Dyna pam ein bod yn uwchraddio’r rhwydwaith Traws Cymru i wella amseroedd teithio, hygyrchedd a chyfforddusrwydd i deithwyr. “Rydym wedi gwrando ar ganfyddiadau adolygiad Dr Victoria Winkler o rwydwaith TrawsCymru ac wedi cymeryd cyfl eoedd i gyfl ymu’r amseroedd teithio ar y ffordd hon.

Cafodd ei gynllunio hefyd i gysylltu â gwasanaeth TrawsCymru T1 yn Aberaeron ar gyfer teithwyr sy’n dymuno teithio i Lanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin.” Dywedodd y Cynghorydd Rob Lewis, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Drafnidiaeth: “Er mwyn cynnig gwasanaeth gwell i deithwyr, rydym wedi bod yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a’n cydweithwyr yng Ngheredigion.”

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth ar Gyngor Sir Ceredigion: “Mae gwasanaethau bws da yn hanfodol i economi Ceredigion. Rydym yn falch o allu darparu’r gwasanaeth gwell hwn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Bydd y T5 newydd yn ychwanegu at y gwelliannau eraill i’r gwasanaeth bysiau a wnaethpwyd gennym y llynedd i ddarparu cysylltiadau rhagorol ar draws y sir a thu hwnt.”

Author