Home » Ail gam proses ymgynghori Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn ar agor
Anglesey Cymraeg North Wales

Ail gam proses ymgynghori Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn ar agor

MAE ail gam y broses ymgynghori ar gyfer Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn wedi agor.

Mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn yn gweithio ar y cyd i roi cyfle i drigolion Ynys Môn gyfleu pa welliannau sydd eu hangen i wella teithiau cerdded a beicio pob dydd ar yr Ynys.

Pob 3 blynedd, rhaid i Gyngor Ynys Môn, ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, fapio, cynllunio, gwella a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer teithio llesol – fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Yna mae’n rhaid i’r Awdurdod gynnig pa lwybrau maen nhw am ganolbwyntio arnyn nhw am y pedair blynedd nesaf.

Fel rhan o’r broses ymgynghori, mae Cyngor Ynys Môn yn defnyddio teclyn o’r enw ‘CommonPlace’ i gasglu adborth preswylwyr ar deithiau presennol ac i helpu i nodi llwybrau newydd posibl. Gellir gweld y map CommonPlace arfaethedig ar gyfer Cyngor Ynys Môn yma: https://ynysmon2.commonplace.is/comments

Dywedodd Huw Percy, Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff Cyngor Ynys Môn, “Pwrpas ail gam yr ymgynghoriad ydi i geisio casglu barn y cyhoedd ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn.”

“Rwyf yn annog holl drigolion Ynys Môn i rannu eu syniadau am y llwybrau cerdded a beicio rydyn ni wedi’u cynnig. Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau bod llwybrau Teithio Llesol yn darparu cyfleoedd i bawb yn y gymuned.”

Ychwanegodd, “Byddwn yn defnyddio’r adborth i’n helpu i roi cynlluniau ar waith er mwyn gwneud gwelliannau i’r rhwydwaith cerdded a beicio yn y dyfodol a’n cynorthwyo i ddatblygu Map Rhwydwaith Teithio Llesol yr Ynys ymhellach.”

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Ynys Môn sesiynau rhithwir gyda grwpiau preswylwyr ar Ynys Môn i drafod cyfleoedd cerdded a beicio ar yr ynys a nodi’r rhwystrau sy’n wynebu preswylwyr ar hyn o bryd o ran ceisio osgoi defnyddio’r car i fynd ar daith fer.

Wrth i gam 2 o fap CommonPlace Cyngor Ynys Môn gael ei lansio, mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Ynys Môn yn cynnal 5 sesiwn rhithwir gyda’r nos gyda thrigolion a grwpiau o randdeiliaid lleol. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr drafod a rhannu eu syniadau am y llwybrau newydd arfaethedig.

Dywedodd Louis Mertens, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned yn Trafnidiaeth Cymru, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gynnal y sesiynau hyn fydd yn trafod llwybrau cerdded a beicio ar draws Ynys Môn. Rydym yn annog pobl i ymuno â’r gweithdai a rhannu eu syniadau am y llwybrau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi’u cynnig.”

Ychwanegodd, “Mae cerdded a beicio yn fwy na mater o symud o un lle i’r llall; mae Trafnidiaeth Cymru eisiau helpu i gynnwys pobl mewn penderfyniadau a phrosesau sy’n helpu i lunio eu cymunedau.”

Croesawodd deilydd portffolio Priffyrdd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Bob Parry, yr ymgynghoriad.

Ychwanegodd, “Hoffwn ddiolch i’r holl breswylwyr a gysylltodd â ni yn ystod gam cyntaf y broses ymgynghori. Rydym yn awyddus i glywed ymhellach gan y cyhoedd i’n helpu i allu datblygu mwy o gyfleoedd beicio a cherdded bob dydd yma ar Ynys Môn.”

Gall preswylwyr Ynys Môn sydd â diddordeb mewn ymuno â sesiwn rithwir ymuno ag unrhyw un o’r digwyddiadau isod:


Amlwch – Dydd Iau 29 Gorffennaf: 18:00 – 19:30
Llangefni – Dydd Llun 2 Awst: 18:00 – 19:30
Llanfairpwll a Phorthaethwy – Dydd Mercher 4 Awst: 18:00 – 19:30
Benllech – Dydd Iau 5 Awst: 18:00 – 19:30

Author