Home » Cefnogaeth wych i’r rhaglen brofi gymunedol ar Ynys Gybi
Anglesey Anglesey Cymraeg Health North Wales

Cefnogaeth wych i’r rhaglen brofi gymunedol ar Ynys Gybi

DIOLCHWYD i drigolion Ynys Gybi am eu cefnogaeth wych wrth gymryd rhan yn y rhaglen brofi Coronafeirws gymunedol.

Mae trigolion a gweithwyr yn mynd am brofion i gadw Ynys Gybi yn ddiogel a chyflawni rôl hanfodol er mwyn helpu i leihau’r nifer uchel o achosion positif a welwyd yn lleol.

Er bod y cyfyngiadau yn cael eu llacio’n raddol yn genedlaethol, mae’r sefyllfa ar Ynys Gybi yn ddifrifol o hyd. Gan nad oes gan 1 o bob 3 pherson symptomau o gwbl – anogir pawb i gael prawf hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau neu os ydynt wedi cael y brechlyn. Drwy wneud hyn gallwn atal y feirws rhag lledaenu.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan, “Mae ymateb y gymuned leol yng Nghaergybi ac Ynys Gybi wedi bod yn hynod o gadarnhaol; ac maent yn chwarae eu rhan i gadw Ynys Gybi yn ddiogel.

Hoffwn dalu teyrnged i staff y Cyngor Sir, ein partneriaid a gwirfoddolwyr am eu hymdrechion a’r gwaith caled sydd wedi arwain at wireddu’r rhaglen brofi gymunedol gynhwysfawr hon ar gyfer Ynys Gybi mewn byr o dro.”

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, “Rydym yn gwybod bod oddeutu un o bob tri sydd yn dal COVID-19 ddim yn dangos unrhyw un o’r symptomau cyffredin, felly bydd y ganolfan brofi gymunedol yn helpu adnabod rhagor o achosion ac atal y feirws rhag lledaenu drwy ein cymunedau lleol.”

“Rydym yn ddiolchgar i’r cannoedd o drigolion ar Ynys Gybi sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y rhaglen brofi ac yn chwarae rhan er mwyn helpu cadw eu cymuned yn ddiogel.”

“Drwy gydol y pandemig yma, mae sefydliadau ar draws Gogledd Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth er mwyn cefnogi’r gymuned ehangach ac mae hyn yn esiampl arall o’r cydweithio clos yma.”

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r gwirfoddolwyr sydd yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu ni wireddu’r rhaglen yma.”

Author