GYDA chynnyrch o Gymru yn uchel ei barch ledled y byd, bydd rhaglen ddogfen, DRYCH: Y Pysgotwyr, yn cynnig cipolwg prin ar diwylliant hynafol, pysgota môr.
Am 9.00 nos Sul, 28 Chwefror ar S4C, bydd cyfle i ymdrochi ym mywyd caled a chyffrous criw o bysgotwyr o Ben Llŷn wrth iddynt ymdrechu i gadw eu pennau uwch y dŵr.
Cawn droedio ar fwrdd yr Harmoni, cwch 15 medr sy’n un o’r unig gychod pysgota yn harbwr Caergybi bellach. Mark Roberts o Nefyn sydd wrth y llyw, Capten neu ‘Sgipar’ i griw o bedwar sy’n mentro ar ein moroedd am ddyddiau ar y tro i hel Cregyn Bylchog, neu Scallops.
“Dwi bob tro’n dechrau trip hefo positive vibes. Os ti’n dechrau’n meddwl am bob dim sy’n gallu mynd yn wrong; y perygl neu fod ‘na ddim pysgod, ‘mi fysa ti’n siarad dy hun allan o fynd.”
Mae pwysau anferth ar ei ysgwyddau. Mae angen dalfa fawr i dalu am gostau’r cwch; tanwydd, yswiriant ac ati, dim ond wedyn gall Mark feddwl am rannu be sy’n weddill rhwng y criw. Yn ogystal ậ chynnal y criw a’u teuluoedd, mae cyfrifoldeb hefyd am gynaladwyedd y diwydiant.
“Dwi wedi bod yn lwcus hyd yn hyn, ond pob blwyddyn mae hi yn mynd yn anoddach i gal criw. Os ydi’r pysgota ddim yn dda, a’r cyflog yn sâl a ti’n gorfod gwneud oriau hir am ychydig o bres, ‘does dim rhyfedd ein bod ni ddim yn gallu cal criw nag oes?
“Mae hyn i gyd i ‘neud efo sustainability a gwella iechyd y môr, gwella cwota, fel bod ‘na ddyfodol i’r rhai ifanc. Mae’n bwysig i ni fel pysgotwyr heddiw, i adael y môr yn iach i bysgotwyr fory, a physgotwyr y dyfodol. Dwi’n teimlo’n gryf am hynny.”
Mae diogelwch yn gyfrifoldeb arall, ac mae Mark yn ymwybodol iawn o’r peryglon gan i’w gefnder, Gareth Jones, golli ei fywyd mewn damwain erchyll ar y môr ym mis Mawrth 2014.
“Stryglo oedd o, ‘sgota scallops. Y pwysa o drio neud pob dim ei hun. Fi oedd yn gorfod dweud wrth ei Fam. Oedd o’n sioc fawr i bawb ac mae o’n dod a fo adra pa mor beryg ydi’r job.”
Nid ar chwarae bach felly, mae dod â chynnyrch o’r môr i’n byrddau. Yn ôl Mark, dyma’r flwyddyn anoddaf iddo brofi erioed, rhwng y tywydd ac effaith Covid a Brexit ar eu marchnad fwyaf – Ewrop.
Er yr heriau sy’n bygwth eu bywoliaeth, mae’r rhamant ac apêl yn amlwg. Y cwestiwn mawr yw, a oes dyfodol i’r diwylliant a’r grefft hynafol?
Add Comment