Home » Cyfarfod ar-lein i denantiaid preifat
Community Conwy North Wales

Cyfarfod ar-lein i denantiaid preifat

MAE Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dod ag ystod o sefydliadau ynghyd i ddarparu cyngor a gwybodaeth i denantiaid preifat mewn digwyddiad ar-lein ar 25 Mawrth.

Mae bron i 1 ymhob 5 aelwyd yn byw mewn cartref rhent preifat – hynny yw, cartrefi na chânt eu rhentu gan gymdeithas tai.

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor ar Bopeth ar gael yn y digwyddiad ar-lein, gyda gwybodaeth i helpu gyda phryderon ariannol am denantiaethau.

Bydd yna hefyd gyfle i glywed gan TPAS Cymru (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid), sefydliad sy’n gweithio gyda thenantiaid yng Nghymru. Byddant yn rhannu canlyniadau o arolwg tenantiaid preifat yn ddiweddar.

Bydd Tai Teg yn darparu gwybodaeth am dai fforddiadwy a’r cyfleoedd sydd ar gael, gan gynnwys pwy sy’n gymwys a sut mae’n gweithio.

Dywedodd deilydd portffolio Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cyng. Charlie McCoubrey “Rydym yn gwybod fod pobl wedi bod yn wynebu pob math o faterion tai dros y flwyddyn ddiwethaf yn ystod y pandemig Coronafeirws. Bydd y digwyddiad hwn yn darparu cyngor i bobl sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd. Mae hefyd yn gyfle i’r sawl sy’n chwilio am wybodaeth am eu dewisiadau tai yn y dyfodol.”

Cynhelir y digwyddiad ar 25 Mawrth rhwng 6pm a 7.30pm. I gymryd rhan, gallwch gofrestru ar Eventbrite: HERE

Neu anfon e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01492 574225.

Author