Home » Tai ar feddyliau pobol eto
Community Cymraeg Gwynedd North Wales Politics

Tai ar feddyliau pobol eto

MAE £12,000 wedi ei godi mewn tridiau i arbed capel hanesyddol rhag troi’n dy haf arall.

Mae Ymgyrch ‘Achub Capel Bethania’ Pistyll yn anelu at gyrraedd targed o £120,000 erbyn Mai 19.

Hwn oedd capel Tom Nefyn Williams, un o bregethwyr mwyaf carismataidd Cymru yn nechrau’r 20ed ganrif.

Ond mae’r adeilad ar y farchnad gyda chaniatad cynllunio i’w droi’n dy haf hefyd wedi ei ganiatau gan Gyngor Gwynedd.

Mae’r ymateb hyd yma gan aelodau’r cyhoedd yn awgrymu y bydd tai yn un o bynciau llosg Etholiad Cymru ym mis Mai.

“Mae’r achos wedi taro nerf oherwydd ei fod yn dangos eto sut mae trigolion lleol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai i ddiwallu anghenion trachwantus unigolion sydd eisiau tai/eiddo fel tai haf yng Nghymru,” meddai Osian Jones, o Gaernarfon sydd wedi cychwyn yr ymgyrch gan ddefnyddio’r adnodd `Go Fund Me’.

“Mae’r peth cymaint gwaeth mewn ffordd gan fod Tom Nefyn ei hun wedi bod yn ffigwr mor bwysig yn hanes Cymru ac yn hanes y traddodiad ffydd yma.”

Dywedodd mai’r bwriad oedd ceisio prynu’r eiddo yn ol i’r gymuned leol yn Pistyll a’i droi yn ganolfan gymunedol, caffi bychan a byncws am fod y Capel ar lwybr y Pererinion ar eu ffordd i Enlli.

Ychwanegodd fod gan y criw lleol ddeufis i gyrraedd y targed o £120,000, a’u bod yn bwriadu taflu’r rhwyd yn ehangach rwan o ran denu arian gan gyfranwyr.

Dywedodd Gwyn Wigley Evans, Arweinydd Gwlad y byddai tai, a defnydd priodol o dai ar frig agenda’r blaid yn yr etholiad.

A bod angen cychwyn wrth ein traed wrth ymateb i’r argyfwng tai.

“Y gwir ydi bod yna gannoedd o filoedd o dai yn wag neu’ n cael eu hanner defnyddio mewn hen ardaloedd diwydiannol, ar lan y mor a chefn Gwlad yma,” meddai.

“Mae’n rhaid dechrau defnyddio rhain ar frys i roi tai i bobol Cymru.Mae’r hawl eisoes gan y Senedd a chynghorau sir i ddeddfu ar hyn, ac mae angen rhoi pwysau anferth arnyn nhw i ddefnyddio’ r hawiau hyn.

“Yn yr etholiad byddwn ni yn galw am osod Treth Cyngor o 500% ar ail-gartrefi yng Nghymru. Bydd hyn yn gallu helpu chynghorau lleol i godi mwy o dai i bobol leol, ac yn helpu gostwng prisiau ar yr un pryd.”

Ychwanegodd nad breuddwyd wag oedd hon o gwbwl o gofio bod Cyngor East Riding yn Swydd Efrog ar fin cyflwyno mesur fel hyn yn eu hardal hwy i ddelio gyda phroblem ail gartrefi.

Debyg y bydd angen ystod o fesurau creadigol i ymateb i’r broblem gyfatebol yma yng Nghymru.

Ac mae gweld Cymry yn mynd i’w pocedi eu hunain i geisio prynu eu tir yn ol yn sicr yn un ohonynt.

Author