Home » Y Llinell Las
Anglesey Anglesey Conwy Cymraeg Denbighshire Entertainment Flintshire Gwynedd North Wales Powys Wrexham

Y Llinell Las

MAE cyrraedd adref o’r gwaith yn saff yn rhywbeth y mae’r rhan fwyaf ohonom yn cymryd yn ganiataol. Ond, i’r heddlu, mae hyn yn risg dyddiol ac yn risg sy’n cynyddu.

Trwy gamerâu yn y ceir ac yn y ddalfa yn ogystal â chamerâu cyrff, mae cyfres Y Llinell Las wedi bod yn dilyn Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru wrth eu gwaith rhyfeddol o ddydd i ddydd.

Mae’r rhanbarth yn gwarchod ardal eang iawn – bron i draean o dir Cymru, ac mae’r problemau sy’n codi yn amrywiol iawn o ardal i ardal – o ddinasoedd y Dwyrain i gefn gwlad y Gorllewin.

Ac mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar ymosodiadau yn erbyn yr Heddlu, rhywbeth sydd – yn anffodus – yn digwydd yn amlach nag erioed i heddweision.

Bu dros 30,000 o ymosodiadau ar heddweision Cymru a Lloegr yn 2019/20. Dros 10,000 o’r rhain yn ymosodiadau niweidiol. Yn y bennod yma o Y Llinell Las, cawn olwg syfrdanol ar yr ymosodiadau cynyddol hyn a’r casineb ymysg rhai yn erbyn yr Heddlu.

Yn ôl Sgt Meurig Jones: “Anaml iawn ‘da ni’n cael neb yn diolch i ni. ‘Da ni’n cael ein galw yn bob enw, ‘da ni’n cael ein cicio, ‘da ni’n cael ein poeri arno. Dydi o ddim y beth neis, does ‘na neb yn mynd i’w gwaith i gael hynny.”

online casinos UK

Mae cyfnod Covid-19 wedi gwneud y swydd hyd yn oed yn fwy peryglus, gan fod nifer o’r heddweision bellach yn gweithio fel unigolion ac nid mewn grŵp neu barau. Mae gan bob un heddwas radio â botwm sy’n gallu cael ei bwyso os yw’r heddwas mewn trwbl ac angen help ar frys.

Yn ôl PC Alun Jones: “Munud ti’n pwsio hwnna, all hell breaks loose. Mae pawb yn gollwng pob dim ac yn mynd syth ata ti achos mae nhw’n gwybod, it’s gone rong.”

Ond oherwydd natur yr ardal eang hon, mewn rhai achosion, does neb yn gallu cyrraedd am ugain munud. Ac mae ugain munud yn amser hir yn enwedig gyda grŵp o bobl peryglus yn amgylchynu o gwmpas.

Yn y rhaglen, cawn weld sawl achos o ymosodiadau yn erbyn yr heddlu, ac un o’r rhai sydd wedi profi ymosodiad difrifol yw PC Rich Priamo o Wrecsam.

Mae Rich yn falch iawn o’i waith a’i gymuned, ac yn dod o deulu agos iawn. Ganwyd tad Rich yn yr Eidal, a cafodd ei daid ei ddal fel carcharor rhyfel a’i ddanfon i Rhuthun, ble ddaeth gweddill y teulu i fyw ar ôl y rhyfel.

Ym mis Awst 2019, cafodd Rich ei alw i dŷ yn Wrecsam ac wrth agor y drws, cafodd ei daro yn ei ên, ei drwyn a’i lygaid cyn cael ei bigo i fyny a’i daflu allan o’r tŷ i’r llawr. Cafodd ei daro’n anymwybodol, a tydi o ddim yn cofio dim ar ôl hynny. Cawn weld y ffilm o gamerâu cyrff yr heddweision cyfagos sy’n ceisio helpu Rich, sy’n gorwedd ar y llawr, trwy gymorth cyntaf.

Bu yn yr ysbyty am dair wythnos yn methu cerdded nac ysgrifennu. Dedfrydwyd y troseddwr i 22 mis o garchar, ond cafodd ei ryddhau ar ôl 6 mis.

Meddai Rich: “Nath o gerdded allan cyn i fi ddod yn ôl i’r gwaith llawn amser. Mae recovery fi wedi cymryd lot mwy o amser na’i prison sentence o.”

Mi roedd gwella’n broses anodd i Rich. Derbyniodd help am Anhwylder Pryder Ôl-drawmatig (PTSD), a newidiodd ei fywyd: “Dwi ddim yn gadael i ddim byd stopio fi. Dwi dal yma, dal yn trio bod mor gryf a dwi’n gallu bod – dwi’n ennill.

“Nath hynny ddysgu fi bod bywyd yn gallu newid fel ‘na…Live for now ydi’r unig neges dwi’n anfon.”

Doedd peidio dychwelyd i’r gwaith ddim yn opsiwn i Rich, sydd, fel pob un o’r heddweision yn y gyfres, ag agwedd rhyfeddol i’w gwaith: “Dydi o ddim wedi taro Rich. Mae o ‘di taro’r iwnifform…Oedd gen i opsiwn ar ôl yr assault i orffen – dwi ddim yn gadael i neb dictatio sut dwi’n gweithio a sut dwi’n byw bywyd fi. Mae plismona yn fy ngwaed i…Fyswn i byth yn gadael.”

Y Llinell Las
Nos Fawrth 9 Mawrth 9.00, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael

Author