YSGOL BRO EIRWG, a Welsh-medium primary school located in Rumney, has been highly commended by Estyn, His Majesty’s Inspectorate for Education and Training in Wales, in its most recent inspection report.
The school, which is part of the Ffederasiwn y Ddraig federation, has been recognised for its clear leadership, supportive environment, and commitment to nurturing pupils’ pride in their Welsh identity.
Inspectors noted that the headteacher, in collaboration with senior leaders, provides clear and effective leadership that has significantly contributed to the consistency in the school’s provision and the holistic education of its pupils. The effective cooperation within the federation and with Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern’s cluster schools has further strengthened this leadership.
The school has created a supportive environment that prioritises high-quality care and well-being for its pupils and this positive atmosphere is reflected in the pupils’ behavior and attitudes towards each other and adults.
The report recognises the school’s highly effective self-evaluation and planning for improvement processes and the way in which leaders skillfully used gathered information to enhance the school’s provision, particularly in developing a stimulating learning environment that fosters curiosity and confidence among the youngest pupils.
Teachers at the school are commended for planning purposeful opportunities that develop a strong sense of community and Welsh identity among pupils and the school provides a wide range of valuable experiences that broaden pupils’ horizons and contribute to their overall development.
Although most pupils enter the school with Welsh-speaking skills below the expected level, they make substantial progress during their time at the school and by the end of their time at Ysgol Bro Eirwg, most pupils are able to communicate confidently in both Welsh and English.
Estyn has invited the school to prepare a case study on its successful approach to creating a rich and stimulating learning environment. This case study will be shared on Estyn’s website to benefit other schools across Wales.
Headteacher Iwan Ellis said: “I am delighted with our Estyn report and thrilled that we have been asked us to write a case study sharing our outstanding practice in the nursery and reception classes. The report confirms that the school is a successful learning community, that the pupils are happy and polite, and that the relationship between staff and pupils is a strength.
A positive report, Estyn has made one recommendation which the school will address in its action plan; to develop its Welsh reading provision to better support pupils in understanding texts across all areas of learning.
Cardiff’s Deputy Leader and Cabinet Member for Education, Cllr Sarah Merry said: “Staff, pupils and the school community should bee proud of this report, and Estyn clearly recognise the progress made by pupils during their time at Ysgol Bro Eirwg and the strong sense of community fostered at the school.
“The headteacher and staff have shown commitment to working hard to ensure all pupils receive the best possible education and develop a deep appreciation for their Welsh heritage.”
At the time of inspection, Ysgol Bro Eirwg had 391 pupils on roll with 28.9% of pupils eligible for free school meals. 2.7% of pupils identify as having additional learning needs and 24.4% of pupils speak Welsh at home.
Ysgol Bro Eirwg yn derbyn canmoliaeth am arweinyddiaeth gref ac amgylchedd dysgu cyfoethog yn arolwg diweddaraf Estyn
Mae Ysgol Bro Eirwg, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhredelerch, wedi cael canmoliaeth uchel gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn ei hadroddiad arolygu diweddaraf.
Mae’r ysgol, sy’n rhan o Ffederasiwn y Ddraig, wedi cael ei chydnabod am ei harweinyddiaeth glir, ei hamgylchedd cefnogol, a’i hymrwymiad i feithrin balchder disgyblion yn eu hunaniaeth Gymreig.
Nododd arolygwyr fod y pennaeth, mewn cydweithrediad ag uwch arweinwyr, yn darparu arweinyddiaeth glir ac effeithiol sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at gysondeb yn narpariaeth yr ysgol ac addysg gyfannol ei disgyblion. Mae’r cydweithrediad effeithiol o fewn y ffederasiwn a chydag ysgolion clwstwr Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern wedi cryfhau’r arweinyddiaeth hon ymhellach.
Mae’r ysgol wedi creu amgylchedd cefnogol sy’n blaenoriaethu gofal a lles o ansawdd uchel i’w disgyblion ac mae’r awyrgylch cadarnhaol hwn yn cael ei adlewyrchu yn ymddygiad ac agweddau’r disgyblion tuag at ei gilydd ac oedolion.
Mae’r adroddiad yn cydnabod prosesau hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella effeithiol iawn yr ysgol a’r ffordd y defnyddiodd arweinwyr wybodaeth a gasglwyd i gyfoethogi darpariaeth yr ysgol yn fedrus, yn enwedig wrth ddatblygu amgylchedd dysgu ysgogol sy’n meithrin chwilfrydedd a hyder ymhlith y disgyblion ieuengaf.
Mae athrawon yn yr ysgol yn cael eu canmol am gynllunio cyfleoedd pwrpasol sy’n datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth gymunedol a Chymreig ymhlith disgyblion ac mae’r ysgol yn darparu ystod eang o brofiadau gwerthfawr sy’n ehangu gorwelion disgyblion ac yn cyfrannu at eu datblygiad cyffredinol.
Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn mynd i’r ysgol gyda sgiliau Cymraeg lafar islaw’r lefel ddisgwyliedig, maent yn gwneud cynnydd sylweddol yn ystod eu hamser yn yr ysgol ac erbyn diwedd eu cyfnod yn Ysgol Bro Eirwg, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i baratoi astudiaeth achos ar ei dull llwyddiannus o greu amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol. Bydd yr astudiaeth achos hon yn cael ei rhannu ar wefan Estyn er budd ysgolion eraill ledled Cymru.
Dywedodd y Pennaeth Iwan Ellis: “Rwy’n falch iawn o’n hadroddiad Estyn ac wrth fy modd ei fod wedi gofyn i ni ysgrifennu astudiaeth achos yn rhannu ein harferion rhagorol yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn. Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod yr ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus, bod y disgyblion yn hapus ac yn gwrtais, a bod y berthynas rhwng staff a disgyblion yn gryfder.
“Mae Ysgol Bro Eirwg yn rhan o Ffederasiwn y Ddraig, ac rwy’n hynod falch bod adroddiad Estyn yn tynnu sylw at lwyddiant ein Ffederasiwn, bod y ddwy ysgol, Ysgol Bro Eirwg ac Ysgol Pen y Pîl, yn cydweithio’n effeithiol i ‘greu cymuned ddysgu lwyddiannus sy’n dathlu Cymreictod, yn darparu gofal a pharch ac yn cynnig profiadau gwerthfawr i ddisgyblion. Gellir teimlo balchder disgyblion yn eu hysgol, eu hardal leol a Chymru yn glir o fewn yr amgylchedd dysgu.’ Mae hyn yn ganlyniad i waith caled ac ymroddiad yr holl staff i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n holl ddisgyblion.”
Yn adroddiad cadarnhaol, mae Estyn wedi gwneud un argymhelliad y bydd yr ysgol yn mynd i’r afael ag ef yn ei chynllun gweithredu; datblygu ei darpariaeth darllen Cymraeg i gefnogi disgyblion yn well i ddeall testunau ar draws pob maes dysgu.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg: “Dylai staff, disgyblion a chymuned yr ysgol fod yn falch o’r adroddiad hwn, ac mae Estyn yn cydnabod yn glir y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion yn ystod eu cyfnod yn Ysgol Bro Eirwg a’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n cael ei feithrin yn yr ysgol.
“Mae’r pennaeth a’r staff wedi dangos ymrwymiad i weithio’n galed i sicrhau bod pob disgybl yn cael yr addysg orau bosibl a datblygu gwerthfawrogiad dwfn o’u treftadaeth Gymreig.”
Adeg yr arolwg, roedd 391 o ddisgyblion ar gofrestr Ysgol Bro Eirwg, ac roedd 28.9% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Roedd gan 2.7% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac roedd 24.4% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.