Home » £2m ychwanegol i drwsio’r difrod llifogydd
Uncategorized

£2m ychwanegol i drwsio’r difrod llifogydd

£2m ychwanegolMAE’R GWEINIDOG Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, wedi cyhoeddi y rhoddir £2 filiwn yn arian ychwanegol i gyllido gwaith atgyweirio brys ar yr amddiffynfeydd llifogydd a ddifrodwyd yn y stormydd diweddar.

Mewn datganiad i Aelodau’r Cynulliad, dywedodd Alun Davies:

“Rwy’n benderfynol o helpu’r awdurdodau sy’n wynebu costau sylweddol ar gyfer atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd hanfodol. Rwyf wedi adolygu fy nghyllidebau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a byddaf yn neilltuo £2 filiwn y flwyddyn ariannol hon i gynnal y gwaith brys ar y seilwaith amddiffyn rhag llifogydd.

“Gallaf gadarnhau hefyd bod oddeutu £9.m wedi’i neilltuo yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gynnal gwaith atgyweirio yn Borth Bae Colwyn a Gorllewin y Rhyl er mwyn gwella cynlluniau hanfodol i amddiffyn yr arfordir.

“Rwy’n gweithio gyda’m cyd-Weinidogion, yn enwedig ym maes adfywio, llywodraeth leol a threftadaeth, i gydlynu ein hymateb ar draws y llywodraeth a nodi ffynonellau cyllid eraill a fydd yn sicrhau bod cymunedau megis Aberystwyth yn gallu ailgodi ar eu traed yn gyflym ac aros ar agor ar gyfer busnes.”

Ar ôl y stormydd ym mis Rhagfyr ac Ionawr gofynnodd y Llywodraeth i bob awdurdod a effeithiwyd am adroddiadau dechreuol o’r difrod i seilwaith amddiffyn yr arfordir ac asedau glan môr eraill, ac amcangyfrifon o’r costau. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod angen neilltuo tua £2 filiwn ar gyfer gwaith trwsio brys.

Yn ôl yr wybodaeth a ddaeth i law, ymddengys fod amddiffynfeydd arfordirol Cymru wedi perfformio’n dda ar y cyfan, gan ddiogelu miloedd o gartrefi a busnesau. Cafwyd difrod i rai strwythurau ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dal yn gweithio ac mae mwyafrif yr awdurdodau lleol yn datgan nad ydynt yn disgwyl y bydd angen cyllid gan Lywodraeth Cymru i ariannu’r gwaith atgyweirio.

Dyma’r mannau lle bu difrod i’r seilwaith amddiffyn rhag llifogydd: Sir Ddinbych: Angen cynnal gwaith i ailadeiladu’r ail wal fôr yn y Rhyl, a fethodd yn ystod storm mis Rhagfyr 2013 Conwy: gwaith sylweddol i atgyweirio difrod i amddiffynfeydd llifogydd ac adfer gwaddod a gollwyd ar y traeth ym Mae Cinmel, Llanddulas a Morfa Conwy, yn ogystal â gwaith ar harbwr Deganwy Gwynedd: angen cynnal gwaith atgyweirio brys ar yr amddiffynfeydd arfordirol yng Nghricieth, Aberdyfi a Phwllheli. Bwlch mawr yn y wal fôr yn Llanbedr hefyd, sy’n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru: angen gwaith atgyweirio brys yma gan fod llifogydd yn dal yn digwydd bob llanw uchel Ceredigion: yn Aberystwyth y mae angen y gwaith mwyaf, yn enwedig i drwsio’r difrod i’r amddiffynfeydd arfordirol ac i’r parth cyhoeddus gan gynnwys y prom hanesyddol Sir Benfro: gwaith byrdymor wedi’i gwblhau i drwsio’r ffordd a gafodd ei difrodi yn Amroth. Bydd angen gwaith pellach dros gyfnod hirach i drwsio’r wal fôr.Ychwanegodd Alun Davies:

“Mae’r awdurdodau lleol yn amcangyfrif ar hyn o bryd bod angen tua £2 filiwn i gynnal y gwaith atgyweirio brys ar y seilwaith amddiffyn rhag llifogydd. Rwy’n aros i ddarllen adroddiadau mwy cynhwysfawr Cyfoeth Naturiol Cymru cyn penderfynu ar yr anghenion cyllido pellach.

“Yn ogystal â’r amddiffynfeydd arfordirol, cafwyd difrod hefyd i adeiladau hanesyddol, y seilwaith trafnidiaeth, promenadau glan môr a Llwybr Arfordir Cymru.

online casinos UK

“Mae pecynnau cymorth ar gael i fusnesau sydd wedi dioddef effeithiau’r llifogydd a stormydd diweddar ac rydym yn gweithio ar draws adrannau’r llywodraeth i sicrhau bod pob sector yn cael gwybod am y cymorth sydd ar gael. Mae cyngor a chymorth ar gael drwy wefan Busnes Cymru a’r llinell gymorth.

“Rwyf hefyd yn dal i edrych ar amryw o opsiynau cyllid oddi mewn ac oddi allan i Lywodraeth Cymru ac mae’r trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Prydain a’r Comisiwn Ewropeaidd yn ogystal.”

Author