BYDDWCH YN GALL, Yfwch yn Gall yw’r neges y tu ôl i ymgyrch amlasiantaeth yn yr wythnosau cyn y Nadolig.
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gâr, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys, Cynghorau Ceredigion a Phenfro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyd wedi ymuno ar gyfer yr ymgyrch hon.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Mae’r ymgyrch hon yn ymwneud ag annog pobl i feddwl am alcohol a chynyddu eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth ynghylch yr effeithiau.
“Nid yw’n golygu dweud wrth bobl am stopio yfed ond yn hytrach, mae’n gofyn iddynt stopio am ychydig ac ystyried beth allent wneud i leihau’r risgiau a’r niwed a achosir gan gamddefnyddio alcohol.
“Rydym eisiau gweld cynifer o sgyrsiau â phosibl ynghylch alcohol a’i rôl yn y gymdeithas yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin dros y chwe wythnos nesaf a gall pobl gymryd rhan yn yr ymgyrch mewn nifer o ffyrdd.”
Dywedodd y Cyng. Huw George, Aelod Cabinet Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoliadol Cyngor Sir Penfro:
“Mae’n hynod o bositif i weld cynifer o sefydliadau yn dod ynghyd i fynd i’r afael â materion cymdeithasol sy’n cyd-fynd ag yfed gormod o alcohol.”
Ychwanegodd Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed Powys, Ian John:
“Rydym am i bobl fwynhau eu hunain, ond i fwynhau mewn ffordd ddiogel a chyfreithlon. Mae’n hawdd iawn anghofio, yn ystod dathliadau’r Nadolig, i fod yn gall ac rydym yn gweld cynnydd mewn trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn.
“Yn aml iawn, prif achos hyn yw pobl yn yfed bach gormod o alcohol. Mae’r mwyafrif o bobl yn yfed yn gall, ond nid yw nifer fach o bobl yn gwybod pryd mae stopio. Gall hyn arwain at broblemau eraill megis ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais yn y cartref, yfed a gyrru ac weithiau hyd yn oed trais rhywiol. Mae’n wych bod yr holl asiantaethau yn cydweithio er mwyn trosglwyddo’r neges bwysig hon.”
Dywedodd Cindy Evans, Cynghorydd Iechyd Galwedigaethol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin:
“Mae alcohol yn fater pwysig trwy gydol y flwyddyn ond rydym yn falch iawn o ymuno gyda’n asiantaethau partner i hybu negeseuon pwysig yn ystod y cyfnod hwn o’r flwyddyn.”
Add Comment