Home » Bydd Cwpan Rygbi’r Byd yn dod i Lanbedr Pont Steffan
Uncategorized

Bydd Cwpan Rygbi’r Byd yn dod i Lanbedr Pont Steffan

webbellisDDYDD LLUN, Mehefin 29ain, fe fydd gwobr fwyaf y byd rygbi – Cwpan Webb Ellis – yn ymweld â Llambed fel rhan o daith Tlws Cwpan Rygbi’r Byd.

Fel rhan o daith Tlws Cwpan Rygbi’r Byd, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnal twrnamaint rygbi iau yn Llambed ar gyfer ysgolion lleol. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Undeb Rygbi Cymru ac fe’i cynhelir yng Nghlwb Rygbi Llambed rhwng 10am a 2pm ddydd Llun, Mehefin 29ain.

Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i ddisgyblion lleol gymryd rhan mewn twrnamaint rygbi hwylus yn ogystal â rhoi cyfle i’r plant a thrigolion lleol dynnu llun gyda thlws mwyaf nodedig y byd rygbi. Bydd y digwyddiad hefyd ar agor i’r cyhoedd ac mae’r Brifysgol yn annog cefnogwyr rygbi ar draws Ceredigion i ddod draw i weld y cwpan.

Gyda’r Brifysgol yn paratoi i ddathlu tymor rygbi 2015 / 2016 fel 150 mlynedd ers i’r gêm rygbi cyntaf yng Nghymru gael ei chwarae yn Llambed, mae’n addas iawn fod Cwpan Webb Ellis yn ymweld â’r dref fel rhan o’r daith o gwmpas Prydain ac Iwerddon.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gynnal y twrnamaint rygbi yn Llambed ac yn gyffrous iawn i groesawu Cwpan Webb Ellis i’r dref – man geni rygbi yng Nghymru. Bydd y tymor rygbi 2015/2016 yn nodi 150 o flynyddoedd ers i Rowland Williams, cyn Ddirprwy Bennaeth Coleg Dewi Sant, Llambed – neu Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fel yw hi bellach – gyflwyno’r gamp i Gymru,” meddai’r Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol.

“Mae’r Brifysgol yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn a byddwn yn lansio rhaglen o ddathliadau ar ddechrau’r tymor ym mis Medi. Yn y cyfamser, mae’r twrnamaint ac ymweliad y tlws yn ffyrdd wych o godi ymwybyddiaeth o gysylltiad Llambed gyda’r gêm gan hefyd roi’r cyfle i gefnogwyr rygbi lleol weld y cwpan arbennig ac hanesyddol hwn.”

online casinos UK

Gobaith Taith y Tlws sy’n ymweld â llefydd ledled y DU ac Iwerddon yw ceisio ymgysylltu â chefnogwyr gan roi cyfle iddyn nhw greu a chadw atgofion bythgofiadwy fel rhan o’u stori Cwpan Rygbi’r Byd 2015 eu hunain.

Gyda dim ond ychydig fisoedd i fynd cyn cychwyn Cwpan Rygbi’r Byd, bydd Taith y Tlws yn cynnig cannoedd o gyfleoedd i gefnogwyr weld Cwpan Webb Ellis ac adrodd eu hanes rygbi wrth iddynt baratoi ar gyfer yr achlysur mawr.

Author