Home » Cerddorion yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas
Uncategorized

Cerddorion yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas

saesnegMAE nifer o gerddorion wedi galw am ddileu targedau tai cenedlaethol er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi heddiw. 

Ymysg yr un cerddor ar ddeg sydd wedi datgan awydd i symud i system a fyddai’n gwneud anghenion lleol yn ganolbwynt i’r system gynllunio mae’r diddanwr Dewi Pws Morris, cantores y band Clatshobant Delyth Wyn ac aelodau’r band Edward H Dafis, Cleif Harpwood o Borth Talbot, a Hefin Elis o Gaernarfon. Mae’r cerddorion wedi llofnodi datganiad Cymdeithas yr Iaith sy’n galw am ddeddfwriaeth gynllunio a fyddai’n gosod anghenion lleol fel man cychwyn y system yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, yn sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael ei asesu, ac yn rhoi grym cyfreithiol i gynghorwyr dderbyn neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ar y Gymraeg. Wrth ddatgan ei gefnogaeth i’r ymgyrch, dywedodd Dewi Pws Morris sy’n byw yn Nhresaith: “Dw i’n cytuno cant y cant gyda’r Gymdeithas am hyn. Mae angen newid yr holl system gynllunio fel bod yr iaith yn gallu tyfu fel iaith gymunedol yn lle crebachu. Does dim pwynt cael rhyw ffics arwynebol heb fynd at wraidd y broblem, sef system gynllunio sy’n gwybod pris popeth ond gwerth dim byd. Anghenion cymunedau lleol ddylai fod yn y ddeddf newydd, dim system sy’n gwasanaethu pobl gyfoethog o’r tu fas. Mae’n amser i’r hen Carwyn ddeffro o’i drwmgwsg.” Daw’r newyddion wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil drafft nad yw’n cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg. Wythnos ddiwethaf, fe ymprydiodd degau o aelodau’r mudiad iaith dros y newidiadau i’r ddeddfwriaeth hefyd. Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rwy’n falch ein bod wedi derbyn cymaint o gefnogaeth i’n galwadau. Mae’r datganiad, sy’n seiliedig ar ein cynigion deddfwriaethol amgen ni fel mudiad, yn ceisio rhoi buddiannau cymunedau’n gyntaf er mwyn taclo tlodi yn ogystal â phroblemau sy’n wynebu’r iaith a’r amgylchedd. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i ddangos eu bod nhw o ddifrif am ddiogelu a chryfhau cymunedau Cymraeg a sicrhau bod pobl yn cael byw yn Gymraeg. Mae’n hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei gwneud yn ystyriaeth berthnasol yn y maes cynllunio er mwyn iddi ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.” “Rydyn ni wedi galw am chwyldroi’r system gynllunio fel rhan o’r chwe newid polisi sydd eu hangen er mwyn delio ag argyfwng y Cyfrifiad. Yn gynharach eleni, fe gyhoeddon ni Fil Cynllunio amgen, ac mae’r datganiad mae’r cerddorion yn ei gefnogi yn crynhoi’r prif alwadau yn y Bil hwnnw. Byddwn ni’n parhau i gasglu enwau ar y datganiad dros y misoedd nesaf a’u cyflwyno i’r Llywodaeth.” Mae nifer fawr o ddatblygiadau tai wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd eu heffaith ar y Gymraeg, megis ceisiadau cynllunio am dai ym Mhenybanc, Bethesda a Bodelwyddan. Mae nifer y cymunedau sydd â mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi cwympo’n ddifrifol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011. Mae Cymdeithas yr Iaith wrthi’n cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn trafod ei chynigion cynllunio ar ei Fil Cynllunio drafft ac yn gwahodd sylwadau arno tan ddiwedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Author