MAE YMGYRCHWYR iaith wedi mynegi pryder bod manylion yr hawliau iaith newydd a gafodd eu cyhoeddi’r wythnos ddiwethaf yn tanseilio penderfyniad cynghorwyr Sir Gaerfyrddin i weithio’n fewnol drwy’r Gymraeg.
Mewn llythyr at Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, mae’r mudiad ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn rhybuddio bod ei phenderfyniad i beidio â gofyn i gyngor Sir Gaerfyrddin weithredu ar rai o’r dyletswyddau iaith newydd yn golygu nad oes amserlen statudol ar gyfer gweithredu ar gytundeb trawsbleidiol y cyngor i weithio’n fewnol yn Gymraeg.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Comisiynydd hysbysebiadau cydymffurfio sy’n manylu ar bryd fydd hawliau iaith newydd yn dod i rym. Tra bod Cyngor Gwynedd yn gorfod cael digon o staff sy’n siarad Cymraeg i gynnal cyfarfodydd personol gydag aelodau’r cyhoedd yn yr iaith heb gyfieithu ar y pryd, nid oes amserlen i gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion nag Ynys Môn i gyflawni’r un lefel o wasanaeth.
Mae’r manylion yn yr hysbysebiadau cydymffurio hefyd yn golygu na fydd cyrsiau addysg, fel gwersi nofio Cymraeg, yn cael ei gynnig yn Gymraeg oni bai bod digon o alw iddyn yn Gymraeg; fydd na ddim asesiad tebyg o’r angen i gynnal y cyrsiau yn Saesneg.
Meddai Manon Elin James, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn y llythyr at y Comisiynydd: “Drwy beidio â gofyn i Sir Gaerfyrddin, dros amser, i gyrraedd yr un lefel â Chyngor Gwynedd rydych yn tanseilio’r cytundeb trawsbleidiol yn y sir. Mae cynghorwyr o bob plaid yn y sir wedi gweithio yn galed i fabwysiadu polisïau blaengar, ond rydych chi wedi gadael nhw i lawr drwy weithredu’n erbyn eu hewyllys.”
Nid yn unig bod hyn yn golled i drigolion yn y sir o ran yr hyn gallan nhw ddisgwyl gan y cyngor yn Gymraeg, ond mae’n mynd yn groes i nod statudol y Comisiynydd, sef i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.”
Ychwanegodd Manon Elin: “Mae angen rheoliadau fel y safonau i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu i’r cyhoedd a bod hawliau gan weithwyr. Yma yn Sir Gâr rydyn ni wedi bod yn pwyso ar y Cyngor ac yn pwysleisio mai gweithio drwy’r Gymraeg sydd ei angen – nid cyfieithu er mwyn bod pethau ar gael yn Gymraeg – fel bod popeth yn digwydd yn Gymraeg beth bynnag. Mae’n syndod nad yw’r Comisiynydd wedi cefnogi dyhead cynghorwyr ar draws y pleidiau i gyrraedd y safonau uchaf.”
Un o’r pethau fyddai wedi gallu gwneud gwahaniaeth yw safonau yn ymwneud â chyrsiau addysg. Yn ôl rheoliadau newydd Comisynydd y Gymraeg bydd disgwyl i’r cyngor sir asesu’r angen am wersi fel gwersi nofio yn Gymraeg, yn hytrach na’u bod yn Gymraeg beth bynnag. Mae holl blant y sir yn cael addysg Gymraeg felly pam cymeryd yn ganiatol mai yn Saesneg dylai’r gwersi fod?”
Add Comment