Home » Dangos y galw am wasanaethau Cymraeg
Uncategorized

Dangos y galw am wasanaethau Cymraeg

cymraeg2FEL RHAN o ymgyrch i Gymreigio Cyngor Penfro mae aelodau Cymdeithas yr iaith wedi lansio taflen adborth gall unrhyw un ei defnyddio i nodi diffyg gwasanaeth Cymraeg. 

Mae’r daflen wedi ei llunio fel rhan o ymateb y Gymdeithas i hysbyseb swydd gan Gyngor Sir Benfro oedd yn dweud nad oedd y Gymraeg yn ystyriaeth. Ers hynny mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno llythyron agored, llunio siarter alwadau i Gymreigio’r Cyngor a chynnal rali er mwyn rhoi cyfle i bobl leisio’u barn. Dywedodd Matthew Rempes, aelod lleol sydd wedi helpu i lunio’r daflen: “Mae’n arwyddocaol ein bod ni’n lansio’r daflen mewn g’yl i ddysgwyr – beth yw diben gwersi Cymraeg os nad yw pobl yn gallu ei defnyddio o ddydd i ddydd ac yn eu gwaith? Fel un o brif gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau y sir byddai’n rhoi cymaint mwy o werth i’r Gymraeg a hyder i bobl y sir – dysgwyr a siaradwyr rhugl, i’w defnyddio os byddai’r Cyngor yn dweud eu bod nhw am symud i weithio yn Gymraeg. “Fe wnaethon ni gwrdd gyda’r Cyngor yn ddiweddar i drafod hyn ond roedd hi’n amlwg nad oedd gyda nhw gynllun o ran gwneud mwy yn Gymraeg – hynny sydd ar goll. Gobeithio bydd yr holl enghreifftiau byddan nhw’n cael yn dangos iddyn nhw fod pobl eisiau’r gwasanaethau Cymraeg hyn.” Ymysg enghreifftiau sydd wedi dod i law hyd yma mae llythyr uniaith Saesneg i gydnabod derbyn ffurflen i gofrestru plentyn mewn ysgol Gymraeg; nad yw staff y canolfannau galw yn gallu ateb ymholiadau yn Gymraeg ac nad oes gwersi nofio ar gael yn Gymraeg. Ychwanegodd Matthew Rempes: “Er ein bod ni wedi bod yn gofyn i’r Cyngor wneud sawl peth mae gyda ni i gyd ein rhan i chwarae wrth gryfhau’r Gymraeg yn y sir. Mae’r ffurflen hon yn un ffordd rwydd i bobl roi eu sylwadau a’u enghreifftiau ac i ni ddangos i’r Cyngor fod pobl eisiau’r gwasanaethau yma yn Gymraeg.”

Author