SUT DDYN oedd y bardd Dewi Emrys Yr oedd y cwestiwn Gofynnwyd gan y ddrama Dewi Emrys: Cythraul yr Awen ddydd Sul diwethaf ar S4C. Yr oedd y cwestiwn Gofynnwyd gan y ddrama Dewi Emrys: Cythraul yr Awen ddydd Sul diwethaf ar S4C. Mewn rhifyn arbennig o Pethe ar ddydd Mawrth, edrychodd Twm Morys i mewn i leoliad y barddol yn cadeirio enillodd Dewi Emrys
Galwodd Dewi Emrys (1881- 1952) ei gymeriad yn ‘gerddorfa o gymhlethdod’, ac yn Dewi Emrys: Cythraul yr Awen byddwn yn gweld pam roedd bywyd Dewi mor helbulus. Bydd cyfraniadau gan rai oedd yn adnabod Dewi a chawn glywed eu hargraffiadau nhw o’r bardd oedd yn dod o Gei Newydd yn wreiddiol, ond a symudodd i Sir Benfro pan oedd yn saith oed. Aeth i’r ysgol ym Mhencaer ac Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun cyn mynd fel prentis newyddiadurwr a chysodwr ar y County Echo yn y dre honno. Ar ôl marwolaeth ei dad, symudodd y teulu i Gaerfyrddin ac aeth Dewi i weithio ar y Carmarthen Journal. Yn1903, fodd bynnag, aeth i Goleg Presbyteraidd a dilyn llwybr ei dad i’r weinidogaeth. Ar ôl y Rhyfel Mawr, ceisiodd Dewi wneud bywoliaeth o’i newyddiaduriaeth drachefn. Er iddo werthu sawl darn i olygyddion Stryd y Fflyd, aeth pethau o chwith iddo, a threuliodd sawl noson dan y sêr ar lannau Tafwys. Cefnodd Cymry Llundain arno, y cyn-bregethwr a oedd erbyn hyn i’w weld yn canu y tu allan i’r eglwysi, a’i gap yn ei ddwylo. Yn 1926, fodd bynnag, daeth tro ar fyd i Dewi, pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe gyda chasgliad o gerddi Rhigymau’r Ffordd Fawr. Yn yr un Eisteddfod, enillodd ar gystadleuaeth Darn o Farddoniaeth mewn tafodiaith gyda’r gerdd a fyddai’n dod yn un o’i weithiau mwya adnabyddus, “Pwllderi”. Yn sgil ei lwyddiant, daeth ei wraig i chwilio amdano yn Abertawe, gan fod Dewi heb dalu tuag at gynnal ei deulu ers blynyddoedd. Fel canlyniad bu rhaid i Ddewi roi’r arian a enillwyd yn yr Eisteddfod i Cissie, casglu mwy gan ei ffrindiau, a hyd yn oed rhoi ei goron newydd mewn pawn shop yn Abertawe. Aeth Dewi Emrys ymlaen i ennill y Gadair yn y Genedlaethol bedair gwaith, yn Lerpwl, 1929 (“Dafydd ap Gwilym”), Llanelli, 1930 (“Y Galilead”), Bangor, 1943 (“Cymylau amser”), a Phen-y-bont ar Ogwr 1948, (“Yr alltud”). Mae sawl Cymro wedi galw’r bardd Dewi Emrys yn arwr ac yn gymeriad rhamantaidd. Ond roedd yn gymeriad dadleuol yn ei gyfnod, ac yn dadlau â sawl un. Ond meddai Emyr Llew am Dewi, “Fe oedd gelyn mwyaf ei hunan.” Un person oedd yn adnabod Dewi orau, oedd ei ferch Dwynwen. Mae Dwynwen bellach wedi newid ei henw i Nina Watkins, ac yn byw yn Ne Lloegr. Dywed fod ei magwraeth wedi bod yn gyfnod anodd iddi hi. “Roedd e’n amser trawmatig iawn i mi, a chefais nifer o brofiadau negyddol.” Dyma’r tro cyntaf i Nina Watkins siarad yn agored am ei thad, ac mae’r hyn mae hi’n ei ddweud yn gwrthddweud y fytholeg ramantaidd am Dewi. Cafodd fywyd lliwgar iawn, treuliodd gyfnod fel gweinidog ac fel cardotyn ar hyd strydoedd Llundain, ac roedd yn ferchetwr o fri. Ond yn ôl Nina, “Doedd e ddim yn dad da iawn.” Mae Dewi Emrys: Cythraul yr Awen yn dramateiddio perthynas Dewi gyda dwy fenyw oedd wedi dylanwadu’n enfawr ar Dewi. Y ddwy oedd Dilys Cadwaladr, mam Nina; ac Eluned Phillips, cyfaill Dewi. Bydd Sharon Morgan yn actio Eluned Phillips, a Judith Humphreys yn chwarae Dilys Cadwaladr. Profiad arbennig i Judith Humphreys oedd actio Dilys Cadwaladr, disgrifia Judith, sydd yn byw ym Mhenygroes yn Nyffryn Nantlle, fywyd a phersonoliaeth Dilys fel un “cymleth.” Dywed Judith iddi hi fwyhau dysgu am elfennau o’r cyfnod, ac am hanes bywyd Dilys a Dewi; “Roedd hi’n gyfle gwych i mi ddysgu am hanes y cyfnod, a hanes bardd mawr o’r cyfnod. Roedd hi’n braf i gael perpectif merch ar y cyfan, ac roedd Dilys yn ferch ddeallus, a chlyfar. Roedd hi hefyd yn fraint i gael y cyfle i bortreadu person oedd a sawl elfen i’w phersonoliaeth. Roedd hi’n berson sensitif, trist, dyrys a chymleth.” Roedd Dilys hefyd yn fardd, a hi oedd y ferch gyntaf i ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1953. Ond roedd ei pherthynas hi a Dewi hefyd yn un cymleth yn ôl Judith; “Roedden nhw’n byw yn dlawd iawn. Roedd Dewi yn berson bregus, ac roedd hi eisiau ei achub o, ac edrych ar ei ôl o, a’i helpu gyda’i ansicrwydd . Roedd hi yn edmygu ei allu a’i ddoniau yn fawr.” Roedd Eluned Phillips hefyd wedi gwirioni ar Dewi Emrys yn ôl Sharon Morgan, sy’n portreadu Eluned yn Dewi Emrys: Cythraul yr Awen. “Dwi’n meddwl ei bod hi a Dewi yn gymeriadau tebyg, fel sgwennwyr a hefyd dau o’dd yn casau culni a rhagfarn y ‘sefydliad. Dwi’n meddwl ei bod hi’n ei edmygu fe fel merch ifanc yr adeg, wedi gwirioni ar y rebel ynddo, ond yna nes ymlaen dwi’n meddwl bod ei perthynas yn fwy cydradd. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi’n berthynas rhywiol ar unryw adeg” dywed Sharon. Ond roedd portreadu Eluned Phillips, enillodd y goron ddwy waith un waith yn Eisteddfod Genedlaethol Bala yn 1967 ac Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983, yn her yn ôl Sharon Morgan “O’dd e’n her ac yn fraint ymgeisio i bortreadu person goiawn, bydd amryw yn cofio, o’dd yn gymeriad mor unigryw, a hefyd mewn cyfnod penodol, sef y 70au.” Bydd y bardd Twm Morys, yn clywed bod Dewi Emrys yn un o ddau fardd i ennill pedair cadair yn yr Eisteddfod, Dyfed oedd y bardd arall. Oherwydd ei lwyddiant ysgytwol ef, penderfynodd yr Eisteddfod newid y rheol, a dim ond dwy gadair gall prifeirdd Cymru eu hennill bellach. Ond er i Dewi ennill y nifer fwyaf o gadeiriau, ef hefyd oedd y bardd a gollodd y fwyaf o gadeiriau. “Un go flêr oedd Dewi Emrys yn methu dal gafael ar swydd na chartref yn hir, yn cysgu weithiau mewn clawdd ar stryd, ac mi werthodd yr unig goron Eisteddfod yr enillodd o er mwyn talu ei ddyledion” dywed Twm Morys. Yn Eisteddfod Llanelli 1930, enillodd Dewi Emrys gadair yr ŵyl am ei bryddest ‘Y Galilead’. Ond yn gynnar wedi ei fuddugoliaeth aeth y gadair hon ar goll. Ac mae’r un yn wir am gadeiriau ei awdlau buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl (1929), Bangor (1943) a Phen-y-bont ar Ogwr (1948). Bydd taith Twm Morys a’r Cadeiriau Coll yn ei arwain ar hyd Cymru a thu hwnt. O dafarn i ysbyty, o gastell i neuadd ddinesig, aiff ar drywydd cadeiriau Dewi Emrys a nifer o feirdd eraill. Bu farw yn Aberystwyth ym mis Medi, 1952, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah, ar bwys Talgarreg. Dywedodd ei gyfaill, y Prifardd T. Llew Jones am yr achlysur: “Bu farw Dewi Emrys yn ysbyty Aberystwyth ar Fedi’r 20fed 1952 a chladdwyd ef ym mynwent Pisgah, Talgarreg. Ychydig iawn o bobl a welodd yn dda i ddod i’r angladd. Yn wir, roedd y capel yn hanner gwag.” Mae cofeb i hyn mwyaf cythryblus o feirdd yn sefyll ar Pwllderi, o ba le y cymerodd ei ysbrydoliaeth mwyaf
Add Comment