Home » Diwrnod Shwmae Sumae 2014
Uncategorized

Diwrnod Shwmae Sumae 2014

shwmaeAR DDYDD MERCHER (Hyd 15) cynhelir nifer o weithgareddau ar draws y wlad i ddathlu yr ail Ddiwrnod Shwmae Sumae! Nôd yr ymgyrch yw: gwneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a chyhoeddus, dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu hyfedredd a sicrhau defnydd o’r Gymraeg drwy’r fl wyddyn.

Bu’r ymgyrch yn lwcus iawn i dderbyn cefnogaeth nifer o enwau amlwg yng Nghymru gan gynnwys y gyfl wynwraig teledu Angharad Mair, y prifardd a’r bragwr cwrw Myrddin ap Dafydd, Dysgwr y Flwyddyn 2013 Martyn Croydon a’r awdures Bethan Gwanas sydd hefyd yn diwtor Cymraeg ail-iaith. Cynhelir nifer o ddigwydiadau eleni ac yn eu plith mae: Seremoni Wobrwyo Shwmae Sir Benfro ar y noson, yn anrhydeddu unigolion, busnesau a chymdeithasau sydd wedi hybu a chefnogi y Gymraeg o fewn y sir.

Dyluniwyd y gwobrau gan y gof Eifi on Thomas o Dinas. Gweithgareddau Cymraeg mewn nifer o ysgolion gan gynnwys ysgolion uwchradd Maesteg, Brynteg, Maesydderwen, Y Strade, Archesgob McGrath ac ysgol newydd Eastern High Caerdydd Boreuau coffi gan amryw o ganghennau Merched y Wawr ac yn y pencadlys yn Aberystwyth Darlith am waith a bywyd D Jacob Davies yn Theatr Felinfach Bydd Y Cinio Mawr (a drefnir gan yr Eden project) yn cynnal digwyddiadau ar hyd a lled y wlad i gryfhau cymunedau, ymarfer y Gymraeg a rhannu yr iaith.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu drwy gynnig sesiynau blasu, disgownt o 10% i gwsmeriaid sy’n archebu yn Gymraeg yn y bwytai ac yn codi arian i elusen RNLI Cymru Stondin yn dref Llambed yn ymuno yn yr hwyl Digwyddiadau amrywiol ym Mhirfysgol Bangor, ysgolion a’r dref Dywedodd Catrin Dafydd o Dathlu’r Gymraeg: “Defnyddwich y Gymraeg pob cyfl e posib er mwyn annog eraill i wneud yr un fath. Roedd y Diwrnod Shwmae Sumae cyntaf yn llwyddiant ysgubol yn 2013 ac wedi cydio yn nychymyg pawb o’r de i’r gogledd. Mae Dathlu’r Gymraeg yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru yn perchnogi’r diwrnod unwaith eto ac mae nifer o Ganolfannau DysguCymraeg i Oedolion yn brysur yn trefnu digwyddiadau ar gyfer Hydref 15ed. Ond nid diwrnod i ddysgwyr yn unig yw hwn. Bwriad yr ymgyrch yw annog pawb i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd boed yn ddysgwyr, yn rhugl neu yn rhydlyd. Ewch amdani!”

Author