Home » Un o drysorau Cymru i’w gweld ar lein am y tro cyntaf
Uncategorized

Un o drysorau Cymru i’w gweld ar lein am y tro cyntaf

Un o drysorauMAE LLYFRGELL Genedlaethol Cymru heddiw wedi cyhoeddi delweddau o un o brif drysorau llenyddol Cymru ar-lein am y tro cyntaf erioed.

Mae Llyfr Aneirin yn gyfrol o’r drydedd ganrif ar ddeg ac yn un o lyfrau pwysicaf Cymru. Cafodd y gyfrol ei chreu tua 1265 ac o fewn ei chloriau mae un o’r cerddi cynharaf Cymraeg a gyfansoddwyd gan Aneirin ar ddiwedd y 6ed ganrif.

Mae ‘Y Gododdin’ yn gerdd sy’n olrhain hanes 300 o filwyr teyrnas Manaw Gododdin yn gwledda am flwyddyn yng Nghaeredin cyn mynd i ymladd yn erbyn y Saeson yng Nghatraeth.

Dim ond tri o filwyr Manaw Gododdin wnaeth ddianc o’r frwydr yn fyw. Yn eu mysg oedd y bardd Aneirin ac fe aeth o ati wedyn i gyfansoddi cyfresm o awdlau i goffáu’r rhyfelwyr a gollwyd.

Dywedodd Dr Maredudd ap Huw, llyfrgellydd llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae awdlau Aneirin yn gignoeth yn eu portread o erchylltra rhyfel.”

Mae’r delweddau o Lyfr Aneirin yn cael eu cyhoeddi ar lein i gyd-fynd ag arddangosfa ‘4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd’ yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

online casinos UK

Fel rhan o’r arddangosfa, ac am y tro cyntaf erioed, bydd pob un o brif lawysgrifau cynnar y Gymraeg i’w gweld yn yr un lle – gan gynnwys Llyfr Coch Hergest, sydd ar fenthyciad o Goleg Iesu Rhydychen.

Meddai Aled Gruffydd Jones, prif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Dyma’r tro cyntaf erioed i brif drysorau llenyddol Cymru fod ynghyd ar gyfer ymwelwyr, ac mae’r tyrfaoedd eisoes yn pererindota i Aberystwyth i’w gweld.

“Er mwyn rhannu’r wefr o’u gweld, rydym yn rhoi’r olaf o lyfrau hynafol Cymru ar-lein, i ymuno â thrysorau megis Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest ar y we fyd-eang.”

Gellir gweld delweddau digidol Llyfr Aneirin ar wefan y Llyfrgell a bydd yr arddangosfa ‘4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd’ ar agor hyd 15 Mawrth 2014.

Author