Home » Guto Dafydd yn ennill Coron Eisteddfod 2014
Uncategorized

Guto Dafydd yn ennill Coron Eisteddfod 2014

eist123GUTO DAFYDD, yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Cyflwynwyd y Goron iddo mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn, brynhawn Llun, 4 Awst. Yn 24 oed, mae Guto’n un o’r beirdd ieuengaf erioed i ennill y Goron yn y Brifwyl. 

Gyda 32 o feirdd wedi cystadlu yn y gystadleuaeth eleni, Golygfa 10 ddaeth i’r brig am ei ddilyniant o 10 cerdd ddigynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun ‘Tyfu’. Traddodwyd y feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn gan Dylan Iorwerth, ar ran ei gyd-feirniaid, Marged Haycock a Dafydd Pritchard, ac wrth sôn am waih Golygfa 10, dywedodd, “Canu am Gymru heddiw trwy sôn hefyd am Gymru ddoe. Ac yn y chwarae rhwng y ddau y mae gogoniant y cerddi. Mae yna sawl math o dyfu – geni babi i’r byd, twf neu ddiffyg twf cenedl, isstori am dwf perthynas rhwng dau ac, ar y diwedd, awgrym y gallwn ni dyfu y tu hwnt i’n hargyfwng presennol. “Cerddi heddiw ydyn nhw. Rhai am ddigwyddiadau eleni. Ymhen blwyddyn neu ddwy mi fydd angen troednodiadau ac mi fydd rhai’n gweld hynny’n wendid. Ond dan ni’n beirniadu eleni. Ac mae Golygfa Deg yn gosod heddiw mewn ffordd iasol ar gefndir cannoedd o flynyddoedd o’n hanes ni. “Meddyliwch am osod helyntion Radio Cymru ac asiantaeth EOS ochr yn ochr â’r hen gerdd am grogi’r telynor Sion Eos o dan gyfraith Lloegr. Meddyliwch am roi stormydd Aberystwyth ochr yn ochr â’r gwynt a’r glaw ym marwnad Llywelyn ein Llyw Olaf, ffordd osgoi Porthmadog efo Dafydd Nanmor a’i hiraeth am ei gariad. Drama Blodeuwedd ac Atomfa Trawsfynydd – ein greddf ddireolaeth ni a grym rhannu’r atom. “Wrth i’r pethau yna ddod ynghyd – ac oherwydd meistrolaeth dechnegol Golygfa Deg a’i hyder o wrth drin iaith a goslef -– mae yna rywbeth llawer mwy’n digwydd. Ffrwydrad o ystyr a’r cryniadau’n parhau ymhell bell ar ôl gorffen darllen. Mi gawson ni ein codi o’n cadeiriau i dir uchel iawn gan fardd meistrolgar. “Yn y diwedd, doedd y penderfyniad mawr ddim yn anodd o gwbl. Coron eleni ydi hi ac mae hi’n bendant iawn yn mynd i Golygfa Deg.” Daw Guto Dafydd yn wreiddiol o Drefor, ond mae bellach yn byw ym Mhwllheli gyda Lisa’i wraig. Ar ôl mynd i Ysgol yr Eifl, Ysgol Glany- Môr a Choleg Meirion-Dwyfor, graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, lle cwblhaodd draethawd hir ar waith Wiliam Owen Roberts ac Iwan Llwyd. Erbyn hyn, mae’n gweithio i Wasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg Cyngor Gwynedd. Mae arno ddyled i’w deulu ac i athrawon a llu cyfeillion am ei gefnogi a’i ysbrydoli. Bu’n cystadlu mewn eisteddfodau mawr a bach ers blynyddoedd, gan lwyddo i lenwi dresel ei Nain ag ambell dlws a chadair. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013, ar ôl cael sawl siom, a daeth yn agos at frig y gystadleuaeth hon yn Ninbych y llynedd. Mae’n drydarwr brwd, yn aelod o dîm Talwrn y Tywysogion a thîm ymryson Caernarfon, ac yn mwynhau darllen, darlithio ac adolygu. Mae’n un o golofnwyr y Glec, ac yn cyfrannu’n rheolaidd i Barn, Barddas, Tu Chwith a chyhoeddiadau eraill. Mae Jac, ei nofel dditectif gyffrous i bobl ifanc, newydd ddod o wasg y Lolfa, a chyhoeddir ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Gyhoeddiadau Barddas yng ngwanwyn 2015. Rhoddir y Goron a’r wobr ariannol eleni gan Gyngor Sir Gâr, a chomisiynwyd yr artist lleol, Angharad Pearce Jones i ymgymryd â’r dasg o gynllunio a chreu y Goron. Cafodd y cynllun ei ysbrydoli gan dreftadaeth diwydiannol ardal yr Eisteddfod, ynghyd â hanes coeden Myrddin. Mae’r cynllun ar ffurf coeden, sy’n tyfu o’r tu blaen tuag at y cefn. Daeth yr ysbrydoliaeth o hanes coeden Myrddin, o lle mae tref a Sir Gaerfyrddin yn cael eu henwau, a gwnaethpwyd y Goron o ddur. Er y deunydd diwydiannol roedd yr artist yn awyddus i’r Goron edrych yn gywrain, yn addurnedig ac yn werthfawr. Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Author