Home » Gwelliant enfawr i PCYDDS
Uncategorized

Gwelliant enfawr i PCYDDS

bookwelshROEDD PRIFYSGOL Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ymhlith y prifysgolion a welodd y cynnydd uchaf yng Nghymru yn lefel bodlonrwydd myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr a gyhoeddwyd heddiw.

Roedd y canlyniadau, a welodd PCYDDS yn dringo o 76% llynedd i 81% eleni, yn cynnwys adborth gan fyfyrwyr ar draws campysau’r Brifysgol yn Abertawe, Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan a Llundain ynghyd â myfyrwyr yn astudio mewn colegau addysg bellach partner a dyma oedd y set cyntaf o ganlyniadau ar y cyd i’r Brifysgol ar ei newydd wedd.

Mae’r arolwg blynyddol yn gofyn i fyfyrwyr raddio eu profiadau ac mae’n cynnwys cwestiynau ar bynciau megis ansawdd y dysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefnu a rheoli ynghyd ag adnoddau dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr ynghyd â’r cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol. “Rydym yn falch iawn o weld cynnydd o 5% mewn boddhad cyffredinol” meddai’r Athro Ian Wells, Dirprwy-Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr.

“Dyma’r tro cyntaf i fyfyrwyr ar draws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gymryd rhan yn yr arolwg yn dilyn yr uno y llynedd gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg Sir Gâr”. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi buddsoddi’n drwm yn y cyfleusterau ac adnoddau ar draws pob un o’n campysau ac mae’n galonogol gweld bod buddsoddiad o’r fath yn cael ei werthfawrogi gan ein myfyrwyr ac mae’n gwneud gwahaniaeth i’w profiad”.

Dywedodd Luke Jones, Llywydd Undeb y Myfyrwyr Grŵp PCYDDS, “Mae’n galonogol gweld newid cadarnhaol mewn nifer o feysydd o gymharu â chanlyniadau’r llynedd. Ar ôl bod drwy flwyddyn lle rydym wedi uno dau sefydliad, gallwn fod yn falch o ganlyniad yr ymchwil hon a’r modd yr ymatebodd ein myfyrwyr. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Brifysgol yn y dyfodol, a bydd y canlyniadau hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar y materion allweddol ar gyfer ein aelodau.”

Author