Home » Hwb o £186,000 i brosiectau technoleg Cymraeg
Uncategorized

Hwb o £186,000 i brosiectau technoleg Cymraeg

fibreNOD Y cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg yw annog gweithgareddau a fydd yn hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg drwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Bydd naw sefydliad yn derbyn cyllid gan gynllun grant 2014/15, gan rannu cyfanswm o £186,774. Ymysg y sefydliadau hyn mae Menter Môn, a fydd yn creu system ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd gan ddefnyddio ffonau symudol wedi’u hailgylchu; JOMEC, Prifysgol Caerdydd ar gyfer prosiect a fydd yn galluogi pobl i greu, cynnal a hybu newyddion cymunedol digidol yn y Gymraeg; a Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru ar gyfer creu ap a fydd yn galluogi aelodau clybiau ffermwyr ifanc ar draws Cymru i wybod beth sy’n digwydd yn eu hardal. Daw’r cyhoeddiad hwn ar ôl i’r Prif Weinidog lansio dogfen bolisi ddrafft sef Bwrw Mlaen sy’n disgrifio’r camau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd er mwyn atgyfnerthu’r iaith yn ystod y tair blynedd nesaf, a fydd yn flynyddoedd allweddol. Mae sicrhau bod technoleg Gymraeg ar gael yn ddidrafferth a hefyd sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o safbwynt datblygiadau newydd yn gwbl allweddol i’r weledigaeth honno. Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae technoleg yn rhan bwysig o’n bywydau bob dydd, felly mae’n hanfodol sicrhau bod technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg ar gael yn ddidrafferth. “Defnyddiwyd cyllid y llynedd ar gyfer buddsoddi mewn gwahanol brosiectau creadigol, gan gynnwys ap yr Urdd, gwefan Gymraeg newydd – Ffrwti.com – a StoriNi sy’n galluogi pobl i lanlwytho newyddion o Gymru. Mae’r holl brosiectau hyn bellach ar waith ac maent yn boblogaidd iawn, ac yn arbennig ymysg pobl ifanc. “Rwy’n hyderus y bydd y naw prosiect llwyddiannus yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn profi’r un llwyddiant, gan greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd – sef un o brif negeseuon Bwrw Mlaen. Trwy sicrhau lle i’r Gymraeg o fewn y technolegau diweddaraf gallwn helpu i sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu yn y dyfodol.” Roedd yr Urdd yn un o’r sefydliadau a elwodd ar gyllid gan gynllun grant y llynedd. Dywedodd Mali Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Datblygu Urdd Gobaith Cymru: “Yn dilyn derbyn grant yn 2013 fe wnaethom greu Ap ‘Fy Ardal’ sef digwyddiadur i blant a phobl ifanc ganfod gweithgareddau Cymraeg yn eu cymunedau. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth hon sydd wedi ein caniatau i greu ap modern a deinamig sy’n ddull hawdd i aelodau’r Urdd ganfod digwyddiadau sydd o ddiddordeb iddynt. Mae’r ymateb wedi bod yn wych i’r ap gyda miloedd yn eu lawrlwytho a dros 3,000 o ddigwyddiadau cyfredol yn ymddangos arno.” Prosiect arall a dderbyniodd grant oedd Ffrwti.com. Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Cyfarwyddwr Nwdls.Cyf a ddatblygodd y wefan: “Mae grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod ffrwti.com yn llwyddiant drwy symud y dechnoleg o fod yn arbrawf diddorol i fod yn graidd cadarn i wefan sydd yn amlhau ac yn hyrwyddo cynnwys a sgyrsiau Cymraeg ar Twitter a’r we yn ehangach. O’r adborth rydym yn ei dderbyn mae ffrwti.com wedi sefydlu’n gyflym fel rhan hanfodol o’r tirlun cyfryngau Cymraeg arlein gan chwarae rôl bwysig mewn cryfhau rhwydweithiau cyfrwng Cymraeg.” Bydd cylch cyllido 2015/16 yn agor ar ddechrau 2015 a bydd rhagor o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru .

Author