Home » Hywel Dda yn ennill statws Bwrdd Iechyd Prifysgol
Uncategorized

Hywel Dda yn ennill statws Bwrdd Iechyd Prifysgol

hywel ddaMAE’R GWEINIDOG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr Athro Mark Drakeford wedi cyhoeddi bod Hywel Dda wedi ennill statws Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol.

Yn ystod ymweliad â’r rhanbarth, cadarnhaodd y Gweinidog fod y bwrdd iechyd wedi arddangos ei waith agos â Phrifysgolion Bangor, Caerdydd,Abertawe, Metropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar draws ystod eang o bynciau gan gynnwys addysg, ymchwil a datblygiad.

Mae’r perthnasoedd yn gyd-gynhyrchiol ac yn aml yn arloesol ac yn cynnig manteision i ofal iechyd, addysg ac ymchwil.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: “Mae’r newid yn yr enw yn adlewyrchu ymrwymiad gwirioneddol i ragoriaeth o ran partneriaeth ag addysg uwch, safon y gwasanaethau a ddarperir a pherfformiad yn gyffredinol.”

Dywedodd yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Hywel Dda wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y 12 mis diwethaf wrth sefydlu Bwrdd Arloesedd i gyfarwyddo gweithgarwch ymchwil a phenodi Cadeirydd Iechyd Gwledig. Mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodaeth uwch o’r Prifysgolion a fydd yn helpu i ddarganfod atebion i’r heriau o ran iechyd gwledig a fydd o bosibl yn cael dylanwad byd-eang.

“Mae gennym eisoes enw da cadarnhaol o ran ymchwil ac rydym wedi denu arian sylweddol i gefnogi’r gwaith hwn. Er mwyn arddangos ein hymrwymiad i ymchwil a helpu i ddenu ymgeiswyr o safon uchel i’r swyddi, yn ddiweddar rydym wedi agor Adran Ymchwil a Labordy yn Ysbyty’r Tywysog Philip er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau yn cyd-fynd â’n huchelgeisiau.

“Mae’r datblygiadau hyn yn dangos y modd yr ydym yn bwriadu bwrw ymlaen â’n cysylltiadau yn y dyfodol a dangos ein hymrwymiad i feithrin a chynnal y cysylltiadau cryf sydd gennym eisoes â Phrifysgolion lleol.”

Bydd adolygiad o statws y bwrdd iechyd yn cael ei gyflawni bob tair blynedd, gan ddechrau yn 2016, er mwyn sicrhau bod y meini prawf yn parhau i gael eu bodloni a bod tystiolaeth glir o welliant parhaus yn safon y gofal sy’n cael ei ddarparu a chanlyniadau cleifion, a hynny thrwy eu gwaith partneriaeth â’r Prifysgolion.

“Rwy’n falch iawn bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi llwyddo yn ei gais am Statws Bwrdd Iechyd Prifysgol,” meddai’r Athro Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

“Mae’r Brifysgol eisoes yn gweithio’n agos gyda Hywel Dda yn datblygu ymatebion arloesol a chynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r heriau o ddarparu system gofal iechyd gwledig effeithiol. Yn ddarparwr addysg aml-lefel gall Grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gynnig y cyfle i ddatblygu rhaglen achrededig unedig ar y cyd o hyfforddiant a chyfleoedd i wella gyrfa trwy addysg bellach ac uwch ar gyfer y rheini yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarth.”

online casinos UK

Dywedodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau Dynol Prifysgol Aberystwyth, “Rwy’n falch iawn bod Prifysgol Aberystwyth weld gallu cyfrannu at Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ennill statws Bwrdd Iechyd Prifysgol. Mae Aberystwyth wedi datblygu ystod o brosiectau arloesol pwysig ac arwyddocaol gyda Hywel Dda ers i ni lofnodi ein Memorandwm o Ddealltwriaeth ddwy flynedd yn ôl. Rwy’n hyderus y bydd y cynlluniau hyn ym meysydd ymchwil, datblygu gwasanaethau a gweithlu, ac ymgysylltiad cyhoeddus yn parhau i fod o fudd i’r ddau sefydliad yn y dyfodol.”

Author