BELLACH gall marchogion, beicwyr a cherddwyr fwynhau nifer o lwybrau gwledig hwylus yn sgil Prosiect gan Gyngor Sir Ceredigion i Wella Llwybrau Ceffylau ar gyfer Twristiaeth, sef ‘Ceredigion ar gefn Ceffyl’, gyda chymorth Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Mae Prosiect Ceredigion ar Gefn Ceffyl wedi gwneud gwelliannau i rwydweithiau’r llwybrau ceffylau ledled y sir. Mae’r prosiect wedi creu deuddeg o lwybrau cylchol ac un llwybr llinol ledled y sir ar gyfer marchogion gan ddefnyddio’r rhwydwaith llwybrau ceffylau presennol a lonydd tawel.
Mae’r cyllid a roddwyd wedi gweddnewid dros 75 milltir o Lwybrau Ceffylau, Cilffyrdd Sydd ar Agor i Unrhyw Draffig a Ffyrdd Di-ddosbarth dros y tair blynedd diwethaf. Ymhlith y gwelliannau mae wyneb newydd wedi ei osod ar y llwybrau gyda cherrig lleol, mae’r gatiau wedi eu gwella, mae gatiau ceffylau wedi eu gosod yn ogystal â 225 o gliciedi sy’n addas ar gyfer ceffylau, gosodwyd arwyddion ac arwyddbyst, cafodd ffosydd eu clirio ac adnewyddwyd ceuffosydd gyda chymorth contractwyr lleol. Bu gwirfoddolwyr yn gymorth mawr i’r Prosiect a buont yn gwneud nifer o welliannau ar lawr gwlad, yn clirio llystyfiant ac yn gosod celfi llwybr.
Bu’r gwirfoddolwyr yn gweithio dros 1500 o oriau ar gyfer y prosiect a deuent o amryw o ardaloedd; mae aelodau o Gerddwyr Llambed ac Aberystwyth, Grwpiau Gwirfoddolwyr, Grŵp Llwybrau Ceffylau Ceredigion yn ogystal â nifer o unigolion eraill i gyd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect. Trwy wella’r llwybrau hyn, mae’r Cyngor yn helpu diogelu’r marchogion trwy ddarparu rhwydwaith iddynt oddi ar y ffordd fawr, mae’n hybu ymarfer corff ac yn cefnogi Twristiaeth gyda Cheffylau. Mae’r prosiect wedi bod yn hwb i ddatblygiad y cyfleusterau hyn ar gyfer Twristiaeth Ceffylau h.y. Gwely a Brecwast / Stablau. Bydd y gwelliannau i’r seilwaith yn dwyn manteision ychwanegol yn eu sgil oherwydd bydd yn gwneud mynediad at gefn gwlad yn fwy hwylus i bawb.
Mae’r llwybrau newydd wedi eu cysylltu â’r llwybrau ceffylau a’r cilffyrdd presennol ac maent yn darparu rhwydwaith eang o lwybrau oddi ar y ffordd fawr. Gobeithir y bydd creu a hyrwyddo’r llwybrau newydd yn helpu hybu twristiaeth ceffylau yng Ngheredigion, ac yn denu pobl a’u ceffylau o bell i ddefnyddio llety a gwasanaethau lleol tra bônt yn ymweld â’r sir.
Ni fuasai’n bosibl creu’r llwybrau hyn heb gymorth parod Tîm Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ceredigion, a fu’n cynnig cefnogaeth ac arbenigedd, yn prosesu gwyriadau ac yn hybu ac yn lansio’r llwybrau trwy ddatblygu llyfrynnau am y llwybrau a thudalennau pwrpasol ar gyfer Ceffylau ar wefanwww. darganfodceredigion.co.uk. Mae’r llyfryn ‘Ceredigion ar Gefn Ceffyl’ ar gael yn y Canolfannau Croeso lleol, yn swyddfa’r Cyngor ym Mhenmorfa Aberaeron ac mae ar gael i’w lwytho i lawr o wefan darganfodceredigion.
Dywedodd Gwirfoddolwyr y Cerddwyr / Hawliau Tramwy Aberystwyth: ‘Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Sarah Pinnell ar y Prosiect Ceredigion ar Gefn Ceffyl yn helpu gwella rhai llwybrau ceffylau a oedd wedi mynd yn angof ers tro. Buom i lefydd nad oedd yn bosibl mynd atynt o’r blaen, llawer ohonynt â golygfeydd gwych o’r wlad a’r arfordir, ac yr oedd hynny’n aml yn ddigon o ddiolch ynddo’i hun am yr holl waith called. Gobeithiwn yn awr y bydd marchogion a cherddwyr lu’n cael mwynhau’r golygfeydd ysblennydd o Geredigion sydd i’w gweld o’r llwybrau hyn ar eu newydd wedd.’
Dywedodd Busnes Twristiaeth Ceffylau: ‘Mae prosiect Ceredigion ar Gefn Ceffyl wedi gwneud gwaith cwbl ragorol. Bellach mae gan farchogion rwydwaith gwych o lwybrau ceffylau a byddant yn gallu marchogaeth am filltiroedd o ben bwy gilydd, heb orfod mynd ar y ffordd fawr rhyw lawer, sy’n beth da oherwydd mae’r ffyrdd yn mynd yn gynyddol beryglus i geffylau, boed traffig arnynt neu beidio.’ Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion:‘Mae prosiect Ceredigion ar Gefn Ceffyl wedi llwyddo i gynyddu’r cyfleoedd sydd o ran twristiaeth lle mae ceffylau yn y cwestiwn trwy weithio gyda sefydliadau ym maes twristiaeth, gwella’r hawliau tramwy cyhoeddus a chreu rhwydweithiau o lwybrau a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt yn y llyfryn. Bydd angen gwella a datblygu llwybrau ceffylau eraill yn y sir pan fydd adnoddau ar gael.’å
Add Comment