Home » Myfyrwyr cerdd yn elwa o brofiad Y Gwyll
Uncategorized

Myfyrwyr cerdd yn elwa o brofiad Y Gwyll

Myfyrwyr cerddMae myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi elwa o bartneriaeth gyda chyfres ddrama S4C Y Gwyll / Hinterland er mwyn ehangu eu sgiliau cyfansoddi ar gyfer y teledu. Roedd y cynllun yn deillio o bartneriaeth rhwng y Coleg, Cyngor Celfyddydau Cymru a chynhyrchwyr y gyfres, Fiction Factory.

Mewn cyfres o sesiynau gweithdy, buodd tîm cynhyrchu Y Gwyll / Hinterland – Ed Thomas, Ed Talfan a Gethin Scourfield – ynghyd â’r cyfarwyddwr, Marc Evans, yn rhannu eu profiadau helaeth o’r diwydiant teledu. Yn dilyn hynny cafodd y myfyrwyr gyfle i gyfansoddi darnau cerddoriaeth eu hunain i gyd-fynd â rhai o’r golygfeydd er mwyn clywed adborth a barn broffesiynol y tîm cynhyrchu.

Dywedodd Ed Talfan, “Roedden ni eisiau cyd-weithio â’r Coleg i rannu profiad ac arbenigedd gyda’r myfyrwyr. Roedd y syniad o gynnal y gweithdai yn ffordd i ni gyfathrebu gyda’r myfyrwyr, nid yn unig er mwyn dweud beth ry’ ni ei eisiau ar gyfer cynhyrchiad teledu, ond er mwyn gallu cynnig ein sylwadau a rhoi profiad ymarferol iddyn nhw.”

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, “Nid yn unig fod Y Gwyll / Hinterland yn gyfres ddrama ardderchog ond mae hi hefyd yn ddathliad o dalentau Cymreig. Wedi ei chreu yng Nghymru, gyda’r gorau o blith talentau ysgrifennu, cyfarwyddo ac actio Cymreig, dyma ddangos creadigrwydd Cymru ar ei orau. Ond mae Cymru hefyd yn enwog ar draws y byd am ei cherddoriaeth, ac ry’ ni’n falch iawn o gael ysbrydoli cenhedlaeth o gerddorion drwy roi’r profiad iddyn nhw ar lwyfan rhyngwladol. Mae’r cyd-weithio yma yn gyfle iddyn nhw greu cysylltiadau gyda’r byd masnachol – sy’n allweddol ar gyfer llwyddo mewn maes cystadleuol.”

Mae perthynas y Coleg gyda’r gyfres ddrama yn mynd gam ymhellach, gan mai’r cyfansoddwr John Hardy, Pennaeth Cerddoriaeth Gyfoes y Coleg, sydd yn gyfrifol am y gerddoriaeth agoriadol â’r sgôr dramatig gydol y ddrama. Bu’n cyd-weithio ar y prosiect gyda dau o’i fyfyrwyr, sydd bellach yn raddedigion, sef Benjamin Talbot a Victoria Ashfield.

Dywedodd John Hardy, Pennaeth Cerddoriaeth Gyfoes y Coleg, “Mewn amryw o ffyrdd mae myfyrwyr y Coleg wedi ennill profiad gwerthfawr drwy fod yn rhan o waith cyfansoddi ar lefel broffesiynol. Rwyf wedi fy mhlesio’n arw gyda gwaith y graddedigion ar y prosiect hwn ac mae eu hymrwymiad, eu hagwedd broffesiynol, eu creadigrwydd a’u gweledigaeth wedi cyfrannu’n sylweddol i’r broses o greu’r gerddoriaeth ar gyfer y gyfres gyffroes hon.”

online casinos UK

Mae S4C yn croesawu’r cydweithio sy’n dangos gwerth rhannu adnoddau, gwybodaeth a phrofiad wrth gynhyrchu cynnwys i’r Sianel. Meddai Pennaeth Partneriaethau S4C, Catrin Hughes Roberts, “Drwy nifer helaeth o brosiectau a phartneriaethau mae S4C yn falch o allu darparu cyfleoedd addysg a hyfforddiant i bobl ddatblygu sgiliau ar gyfer y diwydiant. Mae’r un peth yn wir am y cwmnïau cynhyrchu annibynnol ac mae’r cynllun hwn gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru yn esiampl effeithiol o ddulliau sy’n darparu profiad ymarferol i fyfyrwyr.”

Author