Home » Newidiadau i bill cynllunio a gefnogir
Uncategorized

Newidiadau i bill cynllunio a gefnogir

Cllr Jamie Adams
Cllr Jamie Adams

MAE JAMIE ADAMS, Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, wedi ymuno ag arweinwyr nifer o gynghorau i rybuddio Llywodraeth Cymru mewn llythyr agored y gallan nhw golli “cyfle hanesyddol” drwy beidio newid eu Bil Cynllunio er mwyn cryfhau’r Gymraeg. Mae’r llythyr wedi ei lofnodi gan arweinwyr cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Wrecsam, Conwy, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr ynghyd â chynghorwyr eraill.

Mae’r llythyr agored gan y saith arweinydd yn dilyn gohebiaeth gan arweinydd Cyngor Sir Gâr sy’n galw am i’r Gweinidog Carl Sargeant wneud y Gymraeg yn ganolog i’r Bil. Yn yr ohebiaeth, mae cynghorwyr yn galw am tri phrif newid i’r Bil: gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol fel bod modd caniatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith iaith yn unig; sicrhau bod cynghorau lleol yn cael penderfynu ar eu targedau tai ar sail anghenion lleol ac yn annibynnol o’r Llywodraeth yng Nghaerdydd;a sefydlu pwrpas statudol i’r drefn gynllunio fel bod modd lywio’r drefn mewn cyfeiriad sy’n llesol i’r amgylchedd, yr agenda taclo’r tlodi a’r Gymraeg.

Gan rybuddio am effaith peidio â newid y Bil, medd yr arweinwyr: “Pe collir y cyfle hanesyddol hwn i sicrhau bod y drefn gynllunio yn adlewyrchu anghenion Cymru, byddai’n peryglu ein gallu i gryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau am nifer o flynyddoedd i ddod.” Wrth groesawu’r datganiad dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae momentwm yn sicr tu ôl i’n hymgyrch, ac rwy’n meddwl y bydd yn amhosib i’r Llywodraeth wrthod newid y Bil erbyn hyn – mae ‘na ormod o wrthwynebiad.

Ymysg ein blaenoriaethau mae seilio’r nifer o dai ar anghenion lleol cymunedau, yn hytrach na thargedau cenedlaethol, gyda’r penderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol. Mae hefyd angen gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol; fel mae’r arweinwyr wedi dweud mae angen yr eglurder bod modd i gynghorwyr wrthod neu ganiatáu datblygiad ar sail ei effaith iaith. Gyda’r gyfraith tu ôl iddi, gallai’r Gymraeg ffynnu ar lefel gymunedol dros y blynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith: “Oherwydd ein bod yn obeithiol y bydd y Llywodraeth yn newid y Bil rydyn ni’n galw ar Gyngor Sir Penfro i drafod nawr effeithiau newidiadau’r Bil Cynllunio ar unrhyw ddatblygiadau sydd ar y gweill. Os ydyn nhw’n galw ar y Llywodraeth i roi’r Gymraeg yn ganolog mae dyletswydd arnyn nhw i wneud yr un peth hefyd. Roedd ffigyrau Cyfrifiad 2011 yn dangos twf yn y niferoedd sy’n siarad Cymraeg mewn rhai ardaloedd yn Sir Benfro; mae’r cyngor yn trafod darpariaeth addysg Gymraeg ac rydyn ni wedi bod yn galw arnyn nhw i ddechrau ar y broses o newid iaith gwaith y cyngor. Mae gwir angen sicrhau fod y cyngor ei hun yn ystyried y Gymraeg ar draws pob maes – gan gynnwys cynllunio.”

Author