Home » Plaid yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i recriwtio meddygon
Uncategorized

Plaid yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i recriwtio meddygon

plaidMAE PLAID CYMRU wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o waethygu prinder meddygon y genedl wedi i ffi gyrau ddatgelu eu bod wedi torri eu cyllideb recriwtio. Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi darganfod fod Llywodraeth Cymru wedi gwario mymryn dros £1,000 ar recriwtio meddygon yn yr un fl wyddyn galendr yr oeddent yn cynllunio canoli gwasanaethau allweddol mewn ysbytai oherwydd prinder meddygon. Dangosodd y cais RhG fod Llywodraeth Cymru wedi gwario dim ond £1,115 yn ystod blwyddyn ariannol 2013/14 ar recriwtio meddygon –40 gwaith yn llai na swm y fl wyddyn galendr fl aenorol o £45,326.

Datgelodd y cais RhG hefyd mai un fenter yn unig a wnaed gan Lywodraeth Cymru i recriwtio meddygon mewn cyfnod o fwy na thair blynedd hyd at Fedi eleni. Mae canlyniadau ceisiadau RhG blaenorol i fyrddau iechyd lleol wedi dangos mai ychydig o ymdrechion a wnaed i recriwtio o dramor. Dywedodd Elin Jones AC, Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru, fod Llywodraeth Cymru yn beio prinder meddygon am anawsterau’r GIG pan nad oedd dim neu fawr ddim tystiolaeth eu bod hwy wedi gweithredu i liniaru’r broblem.

Dywedodd AC Ceredigion, etholaeth sydd wedi gorfod dioddef cynlluniau canoli: “Mae Llywodraeth Cymru yn eistedd ar eu dwylo ac yn gwrthod cynllunio gweithlu o ddifrif. Dengys y ffi gyrau hyn eu bod yn fodlon ildio pan wynebir hwy â’r her o ddarparu gwasanaethau i ardaloedd yng Nghymru lle mae’n anodd recriwtio. “Mae hyd at 40% o feddygon teulu yng nghymoedd y de yn nesáu at oed ymddeol, ac y mae rhannau o Gymru wledig eisoes yn gweld meddygfeydd yn cau neu yn cau yn rhannol oherwydd prinder meddygon teulu. “Dyw’r agwedd hon o fethu gwneud dim yn ddigon da os yw Llywodraeth Lafur Cymru am sicrhau GIG cynaliadwy i bob rhan o Gymru.

Rhaid iddynt fynd ati yn fwy egnïol o lawer i ddarparu’r lefelau o staff sydd yn angenrheidiol i gyfl wyno gwasanaethau hanfodol. “Mae Llywodraeth yr SNP wedi dangos beth mae modd ei wneud pan fydd gennych weinyddiaeth fl aengar ac uchelgeisiol, oherwydd bod ganddynt bron i 50% yn fwy o feddygon teulu mewn cymhariaeth â’r boblogaeth na’r hyn sydd gennym yng Nghymru. “Mae’r ffi gyrau hyn hefyd yn codi cwestiynau difrifol ynghylch yr achos dros ganoli. Cafodd hwn ei werthu ar y sail ei fod yn angenrheidiol oherwydd prinder meddygon. “A yw’n syndod fod y prinder hwnnw’n bodoli gyda chyn lleied yn cael ei wneud i drin yr argyfwng recriwtio? “Bydd pobl yn dechrau gofyn a oedd achos Llywodraeth Cymru yn wallus o’r cychwyn cyntaf yng ngoleuni’r ffi gyrau hyn.”

Author