Home » Sir Gar yn serennu yn Eisteddfod CFfI
Uncategorized

Sir Gar yn serennu yn Eisteddfod CFfI

Enillydd y gadair: Endaf Griffiths
Enillydd y gadair: Endaf Griffiths

CYNHALIWYD Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar ddydd Sadwrn (Tach 21), wedi ei westeio gan Ffederasiwn Meirionnydd. Yn ystod y dydd daeth 840 o aelodau o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn y digwyddiad a gafodd ei noddi’n garedig gan Grŵp Cynefin, NFU Mutual ac NFU Cymru, UAC Meirionnydd a Chronfa Cadeirydd Cyngor Gwynedd.

Bu’r aelodau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau gan gynnwys canu, llefaru ac eitemau ysgafn a chystadlaethau gwaith cartref sef rhyddiaith a chelf. Yn dilyn diwrnod llawn o gystadlu Ffederasiwn Sir Gâr aeth a Tharian Mansel Charles, y Ffederasiwn buddugol yn holl gystadlaethau gyda 42 o bwyntiau. Yn gydradd ail roedd Ffederasiwn Meirionnydd a Ffederasiwn Eryri gyda 40 o bwyntiau’r un.

Yn ennill y gadair eleni oedd Endaf Griffiths, aelod CFfI Pontsian, Ceredigion. Graddiodd Endaf o Brifysgol Aberystwyth eleni ar ôl astudio Cymraeg. Mae bellach wedi mynd ymlaen i astudio cwrs MPhil yno, gan obeithio creu astudiaeth ar waith T. Llew Jones. Cafodd y gadair ei wneud gan Aled Llŷr Davies, aelod o Glwb Bryncrug, CFfI Meirionnydd, a’i noddi gan gwmni Cig Oen Maethlon.

Yn cipio’r safle gyntaf yng nghystadleuaeth y corau, ac yn ennill Cwpan Dyffryn Tywi oedd CFfI Meirionnydd. Jessica Robinson, Ffederasiwn Sir Benfro, enillodd Cwpan Ardudwy – gwobr i’r unigolyn gorau yn yr adran gerddoriaeth. I CFfI Pen-y-bont, Sir Gâr aeth Cwpan Her Menter Iaith Sir Benfro am y Parti Unsain Buddugol.

Rhian Evans, Ffederasiwn Ceredigion oedd yr unigolyn gorau yn yr adran lefaru a gwobrwywyd Cwpan CFfI Cymru iddi. Glain Rhys, CFfI Meirionnydd oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth cân gyfoes a gwobrwywyd Cwpan Meinir Richards iddi. Gwobrwywyd Cwpan Joy Cornock i Nest Jenkins, CFfI Ceredigion am fod yr unigolyn mwyaf addawol yn holl gystadlaethau’r Eisteddfod.

Yn adran gwobrau’r ffederasiynau, fe gipiodd CFfI Meirionnydd ac CFfI Eryri Darian Dyffryn Nantlle ar y cyd, a hynny am ddod yn bencampwyr yng nghystadlaethau Cerdd Dant. Yn cipio Tlws Undeb Amaethwyr Cymru Dinbych am ennill yr adran Gwaith Cartref oedd Ffederasiwn Ceredigion. Aeth Tarian Elonwy Philips, sy’n cael ei wobrwy i’r Ffederasiwn buddugol yn y cystadlaethau llwyfan, i Ffederasiwn Sir Gâr.

Dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod, Siwan Jones:

“Roedd hi’n braf iawn gweld cymaint o aelodau’r mudiad o bob cwr o Gymru yn cystadlu ac yn mwynhau yn Aberystwyth ddydd Sadwrn. Cafwyd Eisteddfod hwyliog a hwylus iawn yn dilyn misoedd o waith trefnu gan y Pwyllgor. Hoffwn ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd ym mhob ffordd at lwyddiant yr Eisteddfod, a llongyfarchiadau mawr i’r holl gystadleuwyr. Braf hefyd oedd gweld Endaf Griffiths yn cael ei gadeirio ac yn ennill y gadair hardd. Dymunaf bob lwc i Lowri Thomas a Phwyllgor Sir Gâr ar y gwaith trefnu ar gyfer Eisteddfod 2016!”

Author