Home » Sbin a sing-song o gwmpas Cymru gyda’r Welsh Whisperer
Carmarthenshire Ceredigion Cymraeg Entertainment Mid Wales North Wales Pembrokeshire Powys West Wales

Sbin a sing-song o gwmpas Cymru gyda’r Welsh Whisperer

DROS y blynyddoedd diwethaf mae’r Welsh Whisperer wedi dod yn wyneb amlwg ar draws Cymru gyda’i hiwmor ffraeth a’i ganeuon bachog. Mae e wedi cyfansoddi nifer o glasuron y sîn bop a gwerin Cymraeg, fel ‘Loris Mansel Davies’ a ‘Ni’n Beilo Nawr’, ac mae hefyd wedi gwneud ei farc yn y siartiau canu gwlad Prydeinig.

Mewn cyfres newydd sbon, Welsh Whisperer: Ni’n Teithio Nawr, sy’n dechrau ar 26 Mawrth, cawn neidio i wagen y ‘Welsh’ ac ymuno ag ef ar ei daith i ymweld â rhai o bentrefi cefn gwlad Cymru. Wrth ddod i adnabod rhai o hoelion wyth y cymunedau gwledig hynny, bydd cyfle i ddysgu ambell dric oddi wrth un neu ddau, siawns am gwpwl o beints, a bydd rhaid cael ambell i sing-song hefyd!

“Aethon ni draw i chwe ardal ar draws cefn gwlad Cymru; ardaloedd sydd falle ddim ar y teledu’n aml iawn, neu ardaloedd lle dwi wedi cael nosweithiau da yn y gorffennol” meddai’r Welsh Whisperer.

“Pwrpas mynd yna wedyn oedd cael cwrdd a rhai o’r cymeriadau sy’n byw ‘na – pobl eto sydd ddim bob tro’n cael sylw. Dwi’n cwrdd â lot o’r bobl ‘ma ar y circut, pan dwi’n mynd rownd yn canu, felly ro’n i moen rhoi dipyn bach o sylw iddyn nhw, a hefyd ‘da’n ni di cael dysgu ‘chydig bach am y pentrefi ‘ma. Uchafbwynt y rhaglen yw cael perfformio – hwyl a ‘chydig o sing-song ar y diwedd. Odden ni’n cyfansoddi cân ar y cyd gydag un o dalentau’r ardal bob tro. Mae’r rhaglen yn llawn o ganeuon hefyd!

“Fel arfer pan dwi’n mynd i lefydd fel dwi wedi bod, byddwn i’n mynd i dafarn neu neuadd – canolbwynt y pentre. Wrth gwrs, doedden ni methu neud e fel’na tro ‘ma, felly odd e’n ddiddorol gweld faint o bobl oedd yn fodlon dod mas i gymryd rhan, achos roedden ni reit yng nghanol y cyfnod clo.”

Yn y rhaglen gyntaf, bydd y Welsh Whisperer, sydd bellach yn byw ym Methesda, ger Bangor, yn teithio i lawr i’r gorllewin gwyllt ac i bentref Llanboidy, sydd dafliad carreg o Gwmfelin Fynach, lle cafodd ef ei hun ei fagu.

“Nes i wir fwynhau mynd nôl i Lanboidy, sydd reit ar bwys lle ges i’n magu. Roedd e’n grêt cael mynd i gwrdd â pobl fel Brian John yn y garej. Mae pawb yn yr ardal yn ei ‘nabod e, ond efallai tu allan i patch Cwmfelin Mynach dyw e ddim yn enwog…eto. Ond gobeithio fydd e nawr ar ôl ymddangos yn canu gyda fi ar y rhaglen!”

Yn ogystal â Llanboidy, bydd y Welsh Whisperer yn ymweld â Sarn Mellteyrn, Llangeitho, Llanrhaeadr sir Ddinbych, Pontyberem, a Drefach Felindre.

Welsh Whisperer: Ni’n Teithio Nawr
Nos Wener 26 Mawrth 9.00, S4C

Author