Home » Cystadleuaeth Cân i Gymru yn ôl!
Anglesey Carmarthenshire Ceredigion Cymraeg Entertainment Gwynedd Mid Wales North Wales Pembrokeshire Swansea West Wales

Cystadleuaeth Cân i Gymru yn ôl!

MAE Cân i Gymru yn ôl! Ac eleni, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, bydd S4C yn darlledu cystadleuaeth fwyaf Cymru o lwyfan mwyaf Cymru, Theatr Donald Gordon.

Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu ar nos Wener, y 5ed o Fawrth, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno. Mi fydd 8 cân yn mynd yn erbyn ei gilydd am y siawns i ennill £5,000 a’r teitl Cân i Gymru 2021.

Eleni, y panel oedd yn dewis yr 8 cân ar gyfer y ffeinal oedd Osian Williams o’r band Candelas ac enillydd y gystadleuaeth yn 2013 gyda’r gân Mynd i Gorwen Hefo Alys, Angharad Jenkins – cerddor ac aelod o’r band gwerin Calan, y gantores, actores a’r gyflwynwraig Tara Bethan, a’r canwr-gyfansoddwr Huw Chiswell, a gyfansoddodd cân fuddugol Cân i Gymru ym 1984 gyda’r clasur, Y Cwm.

Mae Elin Fflur wedi bod yn rhan ganolog o Cân i Gymru ers blynyddoedd bellach ac yn edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno o Ganolfan Mileniwm Cymru eleni: “Dwi wrth fy modd fod Cân i Gymru yn ôl unwaith eto eleni. Mae’r gystadleuaeth hon wedi bod yn agos at fy nghalon erioed, ond mae gallu ei chynnal eleni yn fwy sbeshal ryw ffordd a hithau wedi bod yn gyfnod mor anodd i gyfansoddwyr ac pherfformwyr.

“Mae gallu cynnig llwyfan i artistiaid led led Cymru yn rywbeth arbennig iawn a hynny eleni ar lwyfan enwocaf Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Am brofiad ffantastig! Dwi’n edrych mlaen yn fawr at glywed yr wyth cân ac at gyflwyno’r noson yn fyw efo Trystan.”

Gyda chyfyngiadau y pandemig yn golygu y bydd rhaid addasu ychydig ar fformat y noson, ni fydd cynulleidfa yn ymuno y theatr eleni. Yn hytrach, bydd cyfle unigryw i deuluoedd led led y wlad ymuno yn yr hwyl o’u cartrefi drwy fod yn rhan o’r gynulleidfa rithiol. Os oes diddordeb gennych chi gymryd rhan, cysylltwch â [email protected].

online casinos UK

Os ydych chi am drydar am y gystadleuaeth eleni, cofiwch ddefnyddio’r hashnod #CiG2021. Bydd manylion am sut i bleidleisio yn cael eu cyhoeddi ar y rhaglen, a’r gân fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn fyw ar S4C yn hwyrach yn y noson.

Bydd Avanti Media yn dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod i sicrhau fod y gwaith yn parhau mewn ffordd ddiogel.

Author