Home » Tebot piws, tynnu coes a gweld y byd yn lliw
Anglesey Carmarthenshire Ceredigion Cymraeg Entertainment Gwynedd Mid Wales North Wales Swansea West Wales

Tebot piws, tynnu coes a gweld y byd yn lliw

Dan y Lloer: Dewi Pws ac Elin Fflur

MAE Dewi Pws yn un sy’n cael ei adnabod fel dipyn o dynnwr coes, sy’n hoff o ffwlbri a phryfocio. Mae o hefyd yn gerddor, yn actor, cyflwynydd, bardd, campyrfaniwr, ac yn fwy na dim, yn Gymro i’r Carn!

Yn addas ddigon, y Dewi hwn sydd “ddim yn Sant” fel y mae ef ei hun yn cydnabod fydd gwestai arbennig Elin Fflur yn y bennod nesaf o’r gyfres Sgwrs Dan y Lloer ar Ddydd Gŵyl Dewi 1 Mawrth. Bydd y ddau’n swatio am sgwrs o flaen tanllwyth o dân liw nos yn ei ardd yn Nefyn, Pen Llŷn i drafod rhai o atgofion ei yrfa a’i fywyd.

Bu’n rhan o ddau o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru erioed – Tebot Piws, ac yn ddiweddarach, y band roc chwyldroadol Edward H Davies, ac yn y rhaglen mae’n hel atgofion o’r cyfnod arbennig hwnnw gydag Elin: “Wy’n hapus ‘mod i ‘di bod yna yng nghyfnod y 60au a 70au” meddai Dewi, sy’n wreiddiol o Treboeth, Abertawe. “O’dd e’n amser gwyllt, ac ar y pryd, jest byw bywyd Cymraeg, canu. O’dd hi’n barti mawr. O’n i ddim yn meddwl am fory”.

Ond gwelwn nad oedd y Gymraeg wedi bod yn ganolog yn ei fywyd bob amser, wrth iddo ddwyn i gôf ei gyfnod yn yr ysgol: “Saesneg oedd iaith rhan fwya’ o’r plant yn Nhreboeth ar wahân i pan o’n i’n mynd i Ysgol Gymraeg Lon Las. Wedyn es i i Dynevor Grammar School, ac o’n i’n teimlo bo’ fi’n thick am ‘mod i’n siarad Cymraeg, felly nes i gilio nôl o’r Gymraeg…nes i mi ddarganfod fy Nghymreictod eto pan o’n i tua 15 yn mynd i Glan Llyn a Llangrannog, ac Aelwyd yr Urdd yn Capel Treforys.”

Er iddo wneud enw iddo’i hun yn y byd adloniant, efallai ychydig sy’n ymwybodol iddo gymhwyso fel athro, a dysgu yn ardal Sblot yng Nghaerdydd am rai blynyddoedd. Ond fel mae Elin yn clywed, byrhoedlog oedd ei yrfa fel athro: “O’n i’m yn gwybod beth i neud. O’n i ishe bod yn racing car driver yn Ysgol Dynevor! Dyma mêt fi’n deud ‘be am i ni ddysgu i fod yn athrawon?’.

“Pasies i. Dwi’m yn gwybod shwt.

“A wedyn es i i ddysgu yn Sblot am ddwy flynedd. O’n i’n dwlu ar y plant ond do’n i’m yn licio mynd i’r ysgol. Nes i jest penderfynu ‘alla i ddim diodde’ hwn’. Alla i ddim diodde’ dysgu rhagor a stopies i, a ges i gynnig gan gwmni theatr i fynd atyn nhw i sgrifennu pantomeim a dyna sut ddechreuodd yr yrfa”.

Yn rhan o’r yrfa honno, ymddangosodd Dewi yn y cyfresi sebon poblogaidd Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, yn ogystal â’r ffilm Grand Slam yn 1978, oedd yn dilyn taith rygbi i Ffrainc.

Yn 2010 cafodd gyfle i gyfuno’i brofiad fel athro a pherfformio a chyfansoddi wrth deithio o gwmpas ysgolion Cymru fel Bardd Plant Cymru yn cyflwyno gweithdai barddoniaeth Gymraeg i blant mewn modd fywiog, deinamig a llawn hwyl. A’r un gair o gyngor sydd ganddo ef i blant Cymru bob amser?

“Fi wastad yn dweud wrthyn nhw i beidio â tyfu fyny. A fi’n gweud ‘fi’n hen, a wi’n gweld y byd yn llwyd. Chi’n blant a chi’n gweld y byd yn fyw”.

online casinos UK

Author