Home » Elusen yn dewis Grŵp Cynefin i droi eiddo eglwysig segur yn dai
Business Charity Cymraeg

Elusen yn dewis Grŵp Cynefin i droi eiddo eglwysig segur yn dai

Datblygiad Grwp Cynefin Lon Yr Eglwys, Rhewl ger Rhuthun

Mae Grwp Cynefin wedi ei ddewis i weithio ochr yn ochr ag elusen dai flaenllaw i  ddefnyddio eiddo eglwysig i ymateb i’r argyfwng cartrefi fforddiadwy.

Dewisodd Cyfiawnder Tai Cymru Grŵp Cynefin, sydd â swyddfeydd yn Llangefni, Penygroes, y Bala a Dinbych, i gydweithio gyda nhw i geisio troi eglwysi a chapeli segur ledled y wlad yn gartrefi ar gyfer aelodau o’r gymuned leol.

Mae Rhaglen Tai Fforddiadwy’r elusen wedi cynorthwyo i adeiladu tua 100 o gartrefi ers ei sefydlu yn 2016, gyda 200 arall ar y gweill.

Mae’r mwyafrif wedi eu hadeiladu mewn datblygiadau bach o rhwng pump a saith eiddo ar safleoedd tir llwyd a fu yn eiddo i’r eglwys.

Hyd yn hyn, mae Cyfiawnder Tai Cymru wedi gweithio gyda thua 25 o wahanol grwpiau. Fodd bynnag, trwy weithio gyda nifer llai o bartneriaid, cred yr elusen y gall wneud cynnydd sylweddol yn y nifer o gartrefi y mae’n eu creu..

Hyd yn hyn, mae 12 safle wedi eu nodi ledled Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

online casinos UK

Dywedodd cyn Archesgob Cymru a chadeirydd Cyfiawnder Tai Cymru, yr Esgob John Davies: “Mae hwn yn gyfle gwych i eglwysi a chymdeithasau tai weithio gyda’i gilydd mewn ffordd gadarnhaol i helpu datrys un o broblemau cymdeithasol mawr ein hoes.

“Mae pawb yn haeddu cartref, a gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn datblygu mwy o gartrefi i’r bobl hynny sydd â’r angen mwyaf yma yng Nghymru.”

Dywedodd Bonnie Navarro, cyfarwyddwr tai Cyfiawnder Tai Cymru: “Yn dilyn ymgynghori â’r sector tai cymdeithasol, y neges allweddol oedd y dylai unrhyw broses i nodi partneriaid datblygu yn y dyfodol fod yn dryloyw ac yn deg.

“Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod eisiau gweithio gyda’r sefydliadau tai hynny sydd â’r sgiliau a’r gallu ariannol i adeiladu tai newydd, ond hefyd rhai sydd â’r gwerthoedd cywir i gynorthwyo’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Rhywbeth y byddai pob sefydliad Cristnogol yn ei gefnogi.”

O’r safleoedd a nodwyd yng Ngogledd Cymru, mae tri yng Ngwynedd a thri ym Mwrdeistref Sirol Conwy, gyda dau yr un yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Yn ôl Gwyndaf Williams, rheolwr datblygu Grŵp Cynefin: “Mae argyfwng tai ledled Gogledd Cymru ac rydym yn falch o fod yn gweithio gydag Adra a Cyfiawnder Tai Cymru i gwrdd â’r heriau enfawr sydd yn y maes ac yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae ail gartrefi wedi gwaethygu’r broblem yn y sector dai.”

Author