Home » Llyfr i bob plentyn yng Nghymru i helpu i “ysgogi cariad at ddarllen”
Cymraeg Education

Llyfr i bob plentyn yng Nghymru i helpu i “ysgogi cariad at ddarllen”

Jeremy Miles

Bydd cyllid newydd yn darparu miloedd yn rhagor o lyfrau i blant ysgol ledled Cymru, i helpu i wella sgiliau darllen a siarad allweddol plant ifanc.

Cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, gyllid ychwanegol o £5m ar gyfer rhoi rhaglenni darllen ar waith ledled Cymru. Bydd y rhaglenni hyn yn darparu llyfr i bob dysgwr ochr yn ochr â chynllun sy’n cynnig cymorth darllen i ddysgwyr yn y blynyddoedd cynnar a dysgwyr difreintiedig.

Bydd y cyllid newydd yn sicrhau bod darllen yn tanio brwdfrydedd plant a phobl ifanc ac yn datblygu eu sgiliau llafaredd, sy’n sgil sylfaenol ar gyfer dysgu a gallu symud ymlaen i wella eu cyrhaeddiad addysgol. 

Bydd y rhaglen yn cynnwys 72,000 o lyfrau ychwanegol i blant dosbarthiadau derbyn mewn ysgolion ledled Cymru, 3,600 o becynnau clwb blwch llythyrau, llyfrau a hyfforddiant i ymarferwyr i gefnogi gwaith dysgu, a blwch o 50 o lyfrau i bob ysgol wladol yng Nghymru.

Roedd y Gweinidog wedi cadarnhau pecyn o fesurau hefyd, gan gynnwys:

Gweithio ar y cyd â darparwyr addysg athrawon a’r consortia i gynnal adolygiad o’r ddarpariaeth bresennol er mwyn sicrhau bod ymarferwyr yn parhau i gael y cymorth o ansawdd uchel sydd ei angen arnynt ledled Cymru.

Y Rhwydwaith Cenedlaethol – sef corff sy’n cael ei arwain gan ymarferwyr i gefnogi ysgolion i weithredu’r cwricwlwm newydd. Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn blaenoriaethu darllen a llafaredd yn y gwanwyn er mwyn hwyluso addysgu o ansawdd uchel ac ystyried rôl ffoneg yn y cwricwlwm newydd.

Datblygu pecyn cymorth i gefnogi athrawon i ddatblygu eu harferion yn yr ystafell ddosbarth.

Adolygiad o offer sgrinio iaith, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste, i helpu ymarferwyr i nodi problemau sy’n ymwneud â sgiliau gwrando, deall a siarad.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae sgiliau siarad, gwrando a darllen yn chwarae rôl hanfodol yn ein bywydau bob dydd. Os ydyn ni am gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’u cyfoedion, mae gwella sgiliau darllen yn hanfodol.

online casinos UK

“Rhaid inni ysgogi cariad at ddarllen ymhlith plant ifanc er mwyn inni allu sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r arferion y bydd eu hangen arnyn nhw yn nes ymlaen mewn bywyd.

“Mae darllen yn hanfodol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i fanteisio ar ehangder y Cwricwlwm newydd i Gymru. Ac mae nodau’r cwricwlwm yn seiliedig ar wella llythrennedd a llafaredd ein dysgwyr iau.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Rwy’n hynod falch fy mod i’n gallu dangos yr effaith bwysig y gall llyfrau, darllen a llafaredd ei chael ar wireddu potensial plant drwy roi llyfr i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru – yn ogystal â chyllid ar gyfer mwy o lyfrau mewn ysgolion ac i deuluoedd.”

Author