DYLAI goroeswyr strôc sy’n siarad Cymraeg gael cyfle cyfartal i ailadeiladu eu bywydau, yn ôl y Gymdeithas Strôc.

Mae’r elusen yn addo bodloni anghenion mwy o oroeswyr strôc Cymraeg eu hiaith trwy lansio ei pholisi Iaith Gymraeg newydd. Cydnabuwyd ers tro bod darparu gwasanaethau gofal iechyd yn newis iaith unigolyn yn bwysig i’w ofal, ac fe all fod yn allweddol i wellhad goroeswyr strôc.
Cafodd Arnot Hughes, sy’n 74 oed o Landaf, Caerdydd, strôc ym mis Chwefror 2020, ychydig cyn i bandemig y coronafeirws orfodi cyfnod clo cenedlaethol. Gadawodd yr ysbyty ar ôl 10 niwrnod gydag anhawster cyfathrebu sy’n gyffredin ar ôl strôc, sef affasia. “Doeddwn i ddim yn gallu siarad o gwbl pan adawes i’r ysbyty. Fe ges i chwe wythnos o therapi lleferydd ac iaith ar-lein, ond roedd ar gael yn Saesneg yn unig ac nid oedd yn ddigon.

Rwy’n ddwyieithog ond Cymraeg yw’r iaith dwi’n ei siarad o ddydd i ddydd. Daeth fy Saesneg ymlaen yn gynt oherwydd y sesiynau Zoom ar-lein, ond roeddwn i’n cael trafferth siarad Cymraeg gyda fy nheulu.

“Dim ond trwy ddyfalbarhad fy ngwraig dwi wedi gallu dechrau siarad Cymraeg. Dywedodd yr ysbyty wrtha i nad oedd gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg, felly ei gwaith ymchwil hi oedd wedi fy helpu i wella. Rydyn ni’n ymarfer fel teulu, ond byddai wedi bod gymaint yn fwy buddiol cael therapi lleferydd ac iaith yn Gymraeg. Mae dyfalbarhad yn allweddol ac fe alla’ i weld y gwelliannau dwi wedi’u gwneud, ond mae wedi bod yn anodd iawn.”

Helpodd Arnot i gychwyn y Grŵp Paned a Sgwrs a sefydlwyd yn ddiweddar yn rhan o brosiect Camau Cymunedol y Gymdeithas Strôc. Grŵp cymorth gan gymheiriaid anffurfiol ydyw ar gyfer pobl ledled Cymru sydd eisiau sgwrsio yn Gymraeg.

Dywedodd Arnot, “Mae’n dda gallu siarad Cymraeg â’m cyfoedion a chael cyfle i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg bob dydd gyda goroeswyr strôc eraill sydd wedi cael profiad tebyg i mi. Gobeithio y bydd yn helpu eraill sydd eisiau cyfathrebu mwy yn Gymraeg i wella hefyd.”
Mae’r Gymdeithas Strôc yn cynnig nifer o wasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys gwybodaeth a’r offeryn gwybodaeth strôc ar-lein “Fy Nghanllaw Strôc”, ac mae’r llinell gymorth strôc yn cynnig gwasanaeth dychwelyd galwad gan siaradwr Cymraeg.

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru, “Mae’r Gymdeithas Strôc wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i bawb sy’n siarad ac yn darllen Cymraeg. Rydym yn falch o’n presenoldeb yng Nghymru, ac o’n goroeswyr strôc, ein gwirfoddolwyr a’n staff Cymraeg eu hiaith. Mae’r Gymraeg yn rhan hen sefydledig o dapestri cyfoethog Cymru ac rydym yn deall ei bod yn rhan ganolog o fywyd pobl sy’n siarad Cymraeg ac yn rhan bwysig o’r diwylliant a’r gymuned. Credwn fod pawb yn haeddu byw’r bywyd gorau y gallant ar ôl strôc. I siaradwyr Cymraeg, rydym yn gwybod bod hyn yn golygu eich cynorthwyo yn eich dewis iaith. Dyna pam rydym yn gweithio i gynyddu ac ychwanegu at y cymorth y gallwn eisoes ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, “Bu’n fraint cynorthwyo Strôc Cymru i ddatblygu eu Cynnig Cymraeg, sef ein polisi newydd sy’n ceisio hyrwyddo’r gwasanaeth Cymraeg yn well i’r cyhoedd. Credwn fod goroeswyr strôc yn haeddu cael gofal iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg, os dyna’u dewis iaith. Croesawn y ffaith bod Strôc Cymru yn cydnabod y dylai iaith fod yn hawl, yn hytrach na dewis, i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.”