
MAE MERCHED Ysgol Dyffryn Aman wedi mynd i amser ychwanegol i brofi eu bod nhw ar y blaen ym myd pêl-droed.
Mae Tîm Pobl Ifanc Egnïol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gweithio’n agos gydag adran addysg gorfforol yr ysgol i ddarparu sesiynau pêl-droed ar ôl ysgol bob dydd Iau.
Dechreuodd dros 30 o ferched chwarae yn ystod tymor yr hydref, a thrwy hyfforddiant cyson, gwaith tîm a phendantrwydd maen nhw wedi mynd o nerth i nerth ac wedi taro’r nod sawl gwaith yn barod.
Yn gyntaf, fe gymron nhw ran yng nghystadleuaeth Cwpan FA Ysgolion Cymru ac mewn cystadleuaeth dan do i ysgolion lleol, lle aethon nhw yn eu blaenau i’r rownd nesaf.
Ymunodd sawl un o’r merched wedyn â’u clwb cymunedol, Clwb Pêl-droed Iau Rhydaman, ac wrth ymwneud â’r hyfforddwyr ac ymarfer gyda’r clwb fe wellodd safon tîm yr ysgol.

Hyd yn hyn maen nhw wedi ennill Premier Cup clwb pêl-droed Abertawe a byddan nhw’n cynrychioli Abertawe ym Mharc Goodison, Everton, ym mis Mai; maen nhw wedi cyrraedd rownd derfynol cwpan merched dan 13 Ysgolion Cymru, a fydd yn cael ei chwarae yng Nghroesoswallt – cartref pencampwyr Uwchgynghrair Cymru, y Seintiau Newydd – ym mis Mai.
I goroni’r cyfan, fe enillon nhw gystadleuaeth pêl-droed yr Urdd i ferched dan 13, a gynhaliwyd yn Aberystwyth ym mis Ebrill.
Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Chwaraeon a Hamdden: “Mae’n wych gweld beth mae’r merched hyn wedi’i gyflawni mewn amser mor fyr. Rydym yn falch bod ein Tîm Pobl Ifanc Egnïol yn gallu ymwneud â phobl ifanc yn y ffordd yma, ac yn helpu i wneud y fath wahaniaeth.
“Dymunwn yn dda i’r merched a gobeithio y byddan nhw’n parhau i godi’r safon ar gyfer pêl-droed merched yn Sir Gaerfyrddin.”
Dywedodd Colin Staples, Rheolwr Partneriaeth Ymddiriedolaeth Bêldroed Cymru, “Dyma lwyddiant mawr ac mae’n dangos beth mae partneriaeth dda yn gallu ei gyflawni.”
Add Comment