Home » Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf HYSBYSIAD CYHOEDDUS
Politics Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf HYSBYSIAD CYHOEDDUS

CYHOEDDIAD O FWRIAD I BEIDIO Â PHARATOI DATGANIAD AMGYLCHEDDOL

RHEOLIAD 5 RHEOLIADAU ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL (GWAITH GWELLA DRAENIO TIR) 1999


GWAITH GWELLA MEWN PERTHYNAS Â CYNLLUN LLINIARU LLIFOGYDD FFORDD TIRFOUNDER – BRO DEG

MAE CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF (“Y Cyngor”) YN HYSBYSU fel a ganlyn yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999:

1. Mae’r Cyngor yn bwriadu gwneud gwaith gwella draenio tir ar y cwrs dŵr cyffredin di-enw sy’n tarddu i’r dwyrain o Fro Deg yng Nghwmbach ac yn cludo i’w gollyngfa yn yr Afon Cynon. Bwriad y gwaith yw ail-sefydlu’r cwrs dŵr cyffredin trwy weithgareddau atgyweirio sgwrio. Bydd hyn yn lleihau’r risg o lifogydd a achosir gan rwystrau o fewn y cwlfert i lawr yr afon a’r casgenni. Bydd y gwelliannau yma’n lleihau’r perygl o lifogydd glaw mewn ardal lle yr ystyrir bod risg uchel o lifogydd.

2. Dyw’r Cyngor ddim yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â’r gwaith gwella arfaethedig. Gan gyfeirio at Atodlen 2 o Reoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999, ni ystyrir y bydd y gwaith arfaethedig yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd oherwydd nodweddion y gwaith gwella, sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y gwaith gwella, a math a nodweddion yr effaith bosibl ar yr amgylchedd yn sgil y gwelliant.

3. Bydd y mesurau lliniaru ac ataliol canlynol yn cael eu gweithredu i atal yr hyn a allai fer arall cael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd:

• Rheoli adeiladu i liniaru effeithiau sŵn, dirgryniad a llwch;

• Rheoli adeiladu i liniaru’r amser y mae gwaith yn gweithredu o fewn Cwrs Dŵr Cyffredin;

• Rheoli Adeiladu i liniaru’r potensial bod llygredd yn effeithio ar y rhwydweithiau cwrs dŵr arferol;

• Cydymffurfio â gofynion statudol ychwanegol sy’n ymwneud â Chaniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin (Adran 23 o’r Ddeddf Draenio Tir 1991) a Chymeradwyo Draenio Cynaliadwy (Atodlen 3 o’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010).

4. Mae disgrifiad o leoliad, natur a maint y gwaith gwella yn Rhan I o’r Atodlen i’r Hysbysiad yma

5. Os yw rhywun yn dymuno gwneud sylwadau ysgrifenedig am effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig, mae modd iddo wneud hynny drwy eu hanfon at y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen yn 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 1DU neu drwy anfon e-bost i [email protected] o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr Hysbysiad yma.

6. Mae modd cael yr wybodaeth ychwanegol am y gwaith gwella yn Rhan II o’r Atodlen i’r Hysbysiad yma gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen yn 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 1DU trwy anfon e-bost i [email protected].

ATODLEN

Rhan I – manylion am y gwaith gwella

Lleoliad y gwaith gwella: Cwrs dŵr agored rhwng Ffordd Tirfounder a phriffordd Bro Deg (OSGR 302488, 201590) yng Nghwmbach.

Natur a maint y gwaith gwella: Yr holl waith parhaol a’r gwaith dros dro sy’n gysylltiedig â’r canlynol:

i. Atgyweirio sgwrio cwrs dŵr
ii. Gosod mesurau rheoli erydiad

Rhan II – Gwybodaeth ychwanegol

Mae lleoliadau’r gwaith arfaethedig i’w gweld ar Luniau Rhifau: ‘Proposed Earthworks’

Dyddiedig yr 16eg diwrnod hwn o Awst 2024
Andrew Wilkins
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol

Proposed Earthworks

EIA(LDIW)R 1999 Notice – Trifounder Bro Deg FAS – CY-GB.pdf

Author

Tags