Home » Who was St David? Pwy oedd Dewi Sant?
Pembrokeshire West Wales

Who was St David? Pwy oedd Dewi Sant?

A Year Without Big Celebrations

On my table this morning, there was an addition to my wallet, keys and cash. Laid on top of the table was a bright yellow flower with a little pin next to it. The flower was a Cenin Pedr, or a daffodil as it’s known in English. I was ready to celebrate and remember the patron Saint of Wales, Dewi Sant, or Saint David. As I put on my jumper, I added the beautiful yellow flower to my breast.

March 1st is a day that we celebrate everything Welsh. Children would wear traditional Welsh clothes when attending school, everyone would treat themselves to cawl or a lamb dinner, and indulge in a plate of freshly baked Welsh cakes. People would wear red, green and white, while parading around villages and towns, and host Eisteddfodau. People look forward to this celebration all year round. A daffodil or a leek is often worn as a symbol of remembrance on clothes when celebrating St David’s day.

Unfortunately, due to the virus, a lot of gatherings in village halls, in churches and chapels have been cancelled as well as parades through villages and towns.

But, even though the celebrations have been cancelled this year, we can still mark St David’s day by celebrating with our families, and in our own little way. This gives us a chance to understand who St David was, and why he was chosen as the patron Saint of Wales. Here’s a brief story of the man that we celebrate every 1st of March..

The History of St David

St David was born in the year 500, the grandson of Ceredig ap Cunedda, King of Ceredigion. According to legend, his mother St Non gave birth to him on a Pembrokeshire clifftop during a fierce storm. The spot is marked by the ruins of Non’s Chapel, and a nearby holy well is said to have healing powers.

While he developed as a holy man. he became a renowned preacher, founding monastic settlements and churches in Wales, Brittany and southwest England – including, possibly, the abbey at Glastonbury. St David reputedly made a pilgrimage to Jerusalem, from which he brought back a stone that now sits in an altar at St Davids Cathedral, built on the site of his original monastery.

St Non’s Chapel, Pembrokeshire (Image PCNP)

He, and his monks followed a simple, austere life. They ploughed the fields by hand, rather than using oxen, and refrained from eating meat or drinking beer. St David himself was reputed to have consumed only leeks and water – which is perhaps why the leek became a national symbol of Wales.

The most famous miracle associated with St David took place when he was preaching to a large crowd in Llanddewi Brefi.  When people at the back complained that they could not hear him, the ground on which he stood rose up to form a hill. A white dove, sent by God, settled on his shoulder. 

online casinos UK

Another famous miracle performed by St David was the healing of Peulon, his teacher. Peulon was blind, and had been for years. St David placed his hands on Peulon’s eyes, and when he removed them, Peulon could see clearly for the first time. He is also accredited in the resurrection of a young boy, by splashing his own tears on the boy’s face to bring him back to life.

St David died on 1 March – St David’s Day – in 589. He was buried at the site of St Davids Cathedral, where his shrine was a popular place of pilgrimage throughout the Middle Ages. His last words to his followers came from a sermon he gave on the previous Sunday: ‘Be joyful, keep the faith, and do the little things that you have heard and seen me do.’ The phrase ‘Gwnewch y pethau bychain mewn bywyd’ – ‘Do the little things in life’ – is still a well-known maxim in Wales.

After St David’s death

After St David died, hundreds of people started to visit his shrine. Though it has not been proven, it is said that Pope Calixtus the 2nd canonized St David in 1123, and also declared that 2 pilgrimages to St David’s shrine counted as much as 1 pilgrimage to Rome. As mentioned before, St David became famous not only in Wales, but also in the South West of England, Ireland and in Brittany. 

Pope Calixtus the 2nd canonized St David in 1123 (Pic: File)

In 1284, after Edward 1st had conquered Wales, he took St David’s remains and displayed them in London for the populace to see.

His banner is quite noticeable in Wales during the month of March, and can be seen during the year,  at football and rugby games. St David’s banner is a golden cross across a black background.

Over the last few years, an emphasis has been added on Saint David’s day regarding the teaching of Welsh history in classrooms; getting people to learn Welsh, and celebrating other Welsh traditions. There has also been a campaign over the last few years to make March 1st a national holiday in Wales, just as St Andrew’s day is a bank holiday in Scotland, and St Patrick’s day is a bank holiday in Ireland. 

Celebrating During Lockdown

Although it will be a heartache for a lot of people during this St David’s day not being able to celebrate with friends and family and joining in the festivities, we will have next year to join together and enjoy the celebrations.

St David reminds us that even in the hardest of times, we all have a role to play. “Gwnewch y pethau bychain” (Do the little things) –  These are profound and comforting words to remind us to help each other in these hard times, and to appreciate every aspect  of our lives. St David’s message is something that we should remember daily in our everyday lives. 

Enjoy St David’s day, and remember to keep safe.

Pwy oedd Dewi Sant?

St Davids Day will be different this year (This is a file photo)

Blwyddyn heb ddathliadau mawr

Ar fy mwrdd y bore yma, roedd yna rywbeth yn ychwanegol i fy waled, allweddi ac arian. Roedd blodyn melyn tlws gyda phin bach wrth ei ymyl ar ben y bwrdd. Cennin Pedr oedd y blodyn. Roeddwn yn barod i ddathlu a chofio nawddsant Cymru, Dewi Sant. Wrth i mi wisgo fy siwmper, mi wnes i ychwanegu’r blodyn melyn hardd at fy mron gyda’r pin.

Mae Mawrth 1af yn ddiwrnod rydyn ni’n dathlu popeth sy’n Gymreig. Byddai’r plant yn gwisgo dillad traddodiadol Cymreig wrth fynychu’r ysgol, byddai pawb ym mynd ati i fwynhau cawl neu ginio cig oen, ac yn neidio mewn i blât o gacennau Cymreig wedi’u pobi’n ffres. Byddai pobl yn gwisgo coch, gwyrdd a gwyn, wrth orymdeithio o amgylch pentrefi a threfi, a chynnal Eisteddfodau. Mae pobl yn edrych ymlaen at y dathliad hwn trwy gydol y flwyddyn. Mae cennin Pedr neu genhinen yn aml yn cael ei gwisgo fel symbol o goffadwriaeth ar ddillad wrth ddathlu diwrnod Dewi Sant.

Yn anffodus, oherwydd y firws, mae llawer o gynulliadau mewn neuaddau pentref, mewn eglwysi a chapeli wedi cael eu canslo, yn ogystal â gorymdeithiau trwy bentrefi a threfi.

Ond, er bod y dathliadau wedi’u canslo eleni, gallwn ni dal nodi diwrnod Dewi Sant trwy ddathlu gyda’n teuluoedd, ac yn ein ffordd fach ein hunain. Mae’r cyfnod clo yma’n  rhoi cyfle inni ddeall pwy oedd Dewi Sant, a pham y cafodd ei ddewis i fod yn nawddsant Cymru. 

Dyma hanes y dyn rydyn ni’n ei ddathlu ar y 1af o Fawrth.

Hanes Dewi Sant

Ganwyd Dewi Sant yn y flwyddyn 500, yn ŵyr i Ceredig ap Cunedda, Brenin Ceredigion. Yn ôl y chwedl, fe esgorodd ei fam Y Santes Non ar glogwyn yn Sir Benfro yn ystod storm ffyrnig. Dywedir fod y safle’n cael ei nodi gan Gapel Non, sydd nawr yn adfail, a dywedir hefyd bod gan ffynnon sanctaidd gyfagos bwerau iachâd.

Daeth Dewi yn bregethwr enwog, gan sefydlu aneddiadau mynachaidd ac eglwysi yng Nghymru, Llydaw a de-orllewin Lloegr – gan gynnwys, o bosibl, yr abaty yn Glastonbury. Yn ôl pob sôn, aeth Dewi Sant ar bererindod i Jerwsalem, lle daeth â charreg yn ôl sydd bellach yn eistedd mewn allor yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a adeiladwyd ar safle ei fynachlog wreiddiol.

Dilynodd ef, a’i fynachod fywyd syml, addawol. Fe wnaethant aredig y caeau â llaw, yn hytrach na defnyddio ychen, ac ymatal rhag bwyta cig neu yfed cwrw. Honnir bod Dewi Sant ei hun wedi bwyta cennin ac yfed dŵr yn unig – a dyna efallai pam y daeth y genhinen yn symbol cenedlaethol o Gymru.

Digwyddodd y wyrth enwocaf a oedd yn gysylltiedig â Dewi Sant pan oedd yn pregethu i dorf fawr yn Llanddewi Brefi. Pan gwynodd pobl yn y cefn na allent ei glywed, cododd y ddaear y safai arni i ffurfio bryn. Yna daeth colomen wen ar ei ysgwydd, a anfonwyd gan Dduw, ar ei ysgwydd wedi iddo wneud y wyrth.

Gwyrth enwog arall a berfformiwyd gan Dewi Sant  oedd iachâd Peulon, ei athro. Roedd Peulon yn ddall, ac wedi bod ers blynyddoedd. Gosododd Dewi Sant ei ddwylo ar lygaid Peulon, a phan dynnodd o ei ddwylo, gallai Peulon weld yn glir am y tro cyntaf. Mae hefyd wedi’i chael ei gysylltu gydag atgyfodiad bachgen ifanc, trwy dasgu ei ddagrau ei hun ar wyneb y bachgen er mwyn dod ag ef yn ôl yn fyw.

Bu farw Dewi Sant ar 1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi – ym 589. Fe’i claddwyd ar safle Eglwys Gadeiriol Tyddewi, lle’r oedd ei gysegrfa yn le poblogaidd i bererinion  trwy’r Oesoedd Canol. Daeth ei eiriau olaf i’w ddilynwyr o bregeth a roddodd y dydd Sul blaenorol: ‘Byddwch lawen, cadwch y ffydd, a gwnewch y pethau bach yr ydych chi wedi’u clywed ac wedi fy ngweld yn eu gwneud.’ Mae’r ymadrodd ] ‘Gwnewch y pethau bach mewn bywyd’ – yn dal i fod yn adnabyddus iawn yng Nghymru.

Ar ôl Marwolaeth Dewi Sant

Ar ôl i Dewi Sant farw, dechreuodd i gannoedd o bobl ymweld â’i gysegrfa. Dywedir bod y Pab Calixtus yr 2il wedi canoneiddio Dewi Sant yn 1123, er nad oes tystiolaeth gadarn am hyn, a datgan hefyd fod 2 bererindod i gysegrfa Dewi Sant yn cyfrif cymaint ag 1 bererindod i Rufain. Fel y soniwyd o’r blaen, daeth Dewi Sant yn enwog nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn Ne Orllewin Lloegr, Iwerddon ac yn Llydaw.

Yn 1284, ar ôl i Edward 1af goncro Cymru, cymerodd weddillion Dewi Sant a’u harddangos yn Llundain i’r boblogaeth gael eu gweld.

Mae ei faner yn eithaf amlwg yng Nghymru yn ystod mis Mawrth, ac mae i’w gweld yn ystod y flwyddyn, mewn gemau pêl-droed a rygbi. Mae baner Dewi Sant yn groes euraidd ar draws cefndir du.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ychwanegwyd pwyslais ar Fawrth y 1af i addysgu hanes Cymru mewn ystafelloedd dosbarth, cael pobl i ddysgu Cymraeg, a dathlu traddodiadau Cymreig eraill o fewn cymunedau. Bu ymgyrch hefyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i wneud Mawrth 1af yn ŵyl genedlaethol yng Nghymru, fel  mae diwrnod Sant Andrew yn ŵyl banc yn yr Alban, ac mae Dydd San Padrig yn ŵyl banc yn Iwerddon.

Dathlu Yn Ystod y Cynfod Clo

Er y bydd hi’n dorcalonnus i lawer o bobl yn heddiw i fethu â dathlu gyda ffrindiau a theulu, bydd gennym y flwyddyn nesaf i ymuno gyda’n gilydd a mwynhau’r dathliadau.

Mae Dewi Sant yn ein hatgoffa bod gan bob un ohonom rôl i’w chwarae hyd yn oed yn yr amseroedd anoddaf. “Gwnewch y pethau bychain” – Mae’r rhain yn eiriau dwys a chysurus i’n hatgoffa i helpu ein gilydd yn yr amseroedd caled yma, ac maent yn ein hatgoffa i werthfawrogi pob eiliad o’n bywydau. Mae neges Dewi Sant yn rhywbeth y dylem ei gofio yn ein bywydau bob dydd.

Mwynhewch ddydd Gŵyl Dewi, a chofiwch i gadw’n ddiogel.

Author