MAE ADRAN WYDDONIAETH COLEG CEREDIGION dan arweinyddiaeth y tiwtor Sara Jones wedi ennill gwobr wyddoniaeth genedlaethol am eu prosiect yn edrych ar sut mae epilepsi yn effeithio ar fywydau pobl ifanc.
Cafodd y gystadleuaeth gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ei chyflwyno gan yr Urdd yn 2016 pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Sir y Fflint, a llwyddodd Coleg Ceredigion i ennill y gystadleuaeth ar gyfer disgyblion o dan 19 oed.
Bu Trefnydd Cynorthwyol yr Eisteddfod, Stef fan Prys, yn yr ysgol dydd Mawrth, 24 o Ionawr yn cyflwyno siec am £500 i’r adran wyddoniaeth wario ar adnoddau.
Yn ôl Anna ap Robert o Goleg Ceredigion : “Mae cyflwyno cystadlaethau newydd fel y gystadleuaeth wyddoniaeth yn holl bwysig i golegau addysg bellach oherwydd maen rhoi cyfle i lawer mwy o bobl ifanc 16+ i gystadlu a manteisio ar y cyfleoedd mae’r Urdd yn eu cynnig.
“Yr eisin ar y gacen yw pan fyddan nhw yn dod i’r brig ac yn ennill rhodd ariannol, mae wedyn yn galluogi’r coleg i ddarparu’r adnoddau diweddaraf, gorau posibl i’r adran.”

Caiff y gystadleuaeth ei noddi gan gynllun Ffocws ar Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru a byddant eto yn cynnig gwobr i’r ysgol neu goleg buddugol yn 2017.
Gellir cael mwy o wybodaeth am gystadleuaeth 2017 yn urdd.cymru/ gwyddorau. Dyddiad cau cystadlu yw’r 1af o Fawrth.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
- Yn 2017, Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái fydd yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
- Yn 2018, Brycheiniog a Maesyfed fydd yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyda’r Eisteddfod yn ymweld â Chaerdydd a’r Fro yn 2019.
- Urdd Gobaith Cymru yw sefydliad ieuenctid mwyaf Cymru.
- Mae gan yr Urdd dros 54,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed.
- Nod yr Urdd yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu hyder a pharch at ei gilydd ac at bobl ar draws y byd.
- Ymysg y gweithgareddau gynigir gan yr Urdd mae teithiau ac ymweliadau, chwaraeon, Eisteddfodau, cylchgronau, adrannau, aelwydydd a gwersylloedd.
Add Comment