YN ddiweddar, cafodd pedwar aelod o staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro blaciau arbennig bob un i ddathlu chwarter canrif o wasanaeth i’r sefydliad.
Rhyngddynt, mae Dyfan Evans, Sarah Hirst, Yvonne Jones a Geoff Severn, wedi treulio dros 100 mlynedd yn gweithio i’r Awdurdod, a chyflwynwyd y gwobrau am wasanaeth hir iddynt ar ddiwedd 2017.
Dywedodd Gwyneth Hayward, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae cael cyfle i gydnabod aelodau o staff am 25 mlynedd o wasanaeth yn brin, felly mae gallu llongyfarch pedwar ar yr un pryd yn eithaf anhygoel.
“Mae’r Awdurdod yn ffodus o gael aelodau o staff mor ymroddgar ac rwyf mor falch fy mod wedi gallu cydnabod ymrwymiad y pedwar unigolyn yma, sy’n dod â phrofiad mor werthfawr i’w swyddi.”
Mae Geoff a Dyfan yn gweithio gyda Thîm Wardeiniaid y Gogledd, mae Yvonne yn rhan o’r Tîm Cyllid, ac mae Sarah yn aelod o Dîm Cyfeiriad y Parc.
Add Comment