Home » Profiad dirdynnol i Donna Isaacs a’r teulu
Cymraeg

Profiad dirdynnol i Donna Isaacs a’r teulu

MAE Nicky wedi cael llond bol ar yr agweddau cul a’r bwlian homoffobaidd gan rai o ddisgyblion Ysgol Porth y Glo ac mae Aled yn ceisio ail-gydio yn ei fywyd wrth i ni ymuno â chriw’r gyfres ddrama Gwaith Cartref, nos Iau, 15 Chwefror ar S4C.

Mae ysgrifenyddes yr ysgol, Donna, yn ymweld â’i gŵr Colin yn yr ysbyty ac yn gorfod derbyn nad yw e’n mynd i wella dros nos. Cawsom ni sgwrs â Shelley Rees, yr actores o Don Pentre yn y Rhondda, sy’n chwarae Donna Isaacs.

Mae pethau yn anodd iawn i Donna, Colin a’r teulu. Pryd wnaeth Colin ddechrau dangos arwyddion ei fod e’n dioddef o iselder?

Erbyn diwedd y gyfres ddiwethaf roedd Colin yn dechrau dangos arwyddion bod rhywbeth yn bod. Pethau bach oedd i ddechrau – fel Colin yn mynd i’r siop i brynu bara a ddim yn dychwelyd; neu bacio i fynd ar wyliau, ond doedd dim gwyliau wedi’u trefnu. Roedd Donna wedi ceisio ei berswadio i fynd at y meddyg achos doedd hi ddim yn gwybod sut i ddelio â’r sefyllfa. Mae Colin wedi bod yn dawel iawn drwy’r holl beth ac wedi datgysylltu ei hun o bobl eraill.

Sut mae Donna yn ymateb i’r sefyllfa?

Mae hi mewn sioc am yr holl beth a dweud y gwir ac yn gobeithio ei bod hi’n gallu sortio’r sefyllfa. Ar y dechrau, mae hi’n ei ffeindio hi’n anodd cytuno bod Colin angen triniaeth ond mae hi hefyd yn deall bod angen i’r tîm meddygol wneud popeth posib i’w wella. Er bod Donna yn gymeriad cryf, mae hyn yn ergyd enfawr iddi.

Ydy’r ysgol yn gefnogol ac a fydd pwynt yn dod lle mae Donna eisiau rhoi i fyny?

Mae Donna mor broffesiynol dyw hi ddim yn trafod y sefyllfa yn y gwaith. Er bod y staff yn garedig, mae hi wedi colli Colin, ei ffrind gorau. Mae hi’n torri ei chalon ond yn trio gwneud y gorau o’r sefyllfa. Mae hi wir yn gweld eisiau Colin gan fod y ddau wastad wedi bod yn gefn i’w gilydd. Yn ystod y gyfres, mae pob math o broblemau yn codi gyda’r plant ac mae Donna o dan bwysau aruthrol. Roedd y stori am iselder yn gyfle i weld ochr fregus iawn unigolyn sydd fel arfer yn gallu ymdopi gydag unrhywbeth.

Fel actores, sut brofiad yw chwarae’r cymeriad?

Dwi wrth fy modd! Mae hi’n fywiog, yn chwareus, siaradus, yn gyfeillgar ac yn gefn i bawb. Fel cyn ddisgybl Ysgol Porth y Glo, mae hi’n deall cefndiroedd y disgyblion ac yn gefnogol iawn o’r brifathrawes, Dr Murphy. Dwi wedi bod mor lwcus i gael straeon difyr ymhob cyfres o Gwaith Cartref ac mae cael chwarae cymeriad Donna yn yr ysgol a gartref gyda’r teulu yn ddiddorol iawn.

online casinos UK

Author

Tags