Home » A ydych chi’n cymryd rhan yn Niwrnod Shwmae Su’mae?
Cymraeg News

A ydych chi’n cymryd rhan yn Niwrnod Shwmae Su’mae?

Mae’n gofyn ‘Shwmae?’: Wyn Thomas, Maer Caerfyrddin
Mae’n gofyn ‘Shwmae?’: Wyn Thomas, Maer Caerfyrddin
Mae’n gofyn ‘Shwmae?’: Wyn Thomas, Maer Caerfyrddin

BYDD POBL o bob cwr o Sir Gaerfyrddin a thu hwnt yn cymryd rhan yn niwrnod Shwmae Su’mae ddydd Sadwrn.

Mae’r fenter Gymraeg, Diwrnod Shwmae Su’mae, yn gyfle i gael hwyl ac i rannu’r iaith yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith a gyda ffrindiau trwy gyfarch pobl gan ddweud Shwmae, Su’mae, Shwdi neu S’mai.

Er bod Shwmae Su’mae ar ddydd Sadwrn eleni, gallwch ddathlu’r diwrnod yn y gweithle drwy gychwyn eich sgyrs iau yn Gymraeg ar ddydd Gwener.

Dywedodd y Cyng. Mair Stephens, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gymraeg: “Mae Diwrnod ShwmaeSu’mae yn gyfle gwych i hyrwyddo’r Gymraeg ac annog pobl i ddechrau eu sgyrsiau â ‘shwmae’. Cofiwch fod gwersi Cymraeg ar bob lefel ar gael ar ein gwefan. Peidiwch â phoeni os yw’r cyrsiau wedi dechrau ers rhai wythnosau, gallwch ymuno â’r grŵp o hyd.”

I ddynodi’r achlysur yng Nghaerfyrddin, bydd cwis Cymraeg yng Nghlwb Pêl-droed Caerfyrddin ddydd Sadwrn, 15 Hydref am 8pm. Bydd yn addas i ddysgwyr yn ogystal â siaradwyr Cymraeg.

Yn Sir Gaerfyrddin y nod yw bod pob plentyn yn cael cyfle i adael ysgol yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae mwy a mwy o gyflogwyr ar draws y sir ac yng Nghymru benbaladr yn awyddus i recriwtio staff sy’n gallu gweithio’n gyffyrddus yn y ddwy iaith.

Mae gan y Cyngor raglen Cymraeg i Oedolion lwyddiannus er mwyn annog y rheiny sydd am siarad yr iaith neu er mwyn gwella eu sgiliau.

I drefnu lle mewn dosbarth Cymraeg, anfonwch neges e-bost at [email protected] i drafod y mater.

Author