Home » Adolygiad Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
Cymraeg News

Adolygiad Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

screen-shot-2016-11-29-at-11-53-21MAE CYGNOR Sir Ceredigion yn dechrau ei adolygiad cyntaf o’i Gynllun Gwella Hawliau Tramwy.

Roedd sefydlu cynllun o’r fath yn ofyniad o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ac mae hefyd yn ofynnol bod y cynllun yn cael ei adolygu bob deng mlynedd.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yw’r prif gynllun a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i glustnodi, blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer gwelliannau i’w rhwydwaith hawliau tramwy lleol – ac wrth wneud hynny darparu gwell cyfleusterau ar gyfer cerddwyr, seiclwyr, marchogion ceffylau, gyrwyr ceffylau, modurwyr (oddi ar y ffordd) a phobl â phroblemau symudedd. Bydd y cynllun hefyd yn edrych ar y tir mynediad sylweddol y bu i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ei sicrhau.

Bwriad yr adolygiad yw i nodi amserlen ar gyfer cwblhau’r adolygiad i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion – sydd eisoes wedi ei wneud – ac hefyd i gynnal yr asesiad gan mynd i’r afael â materion statudol ac atodol.

Mae materion statudol yn cynnwys ystyried i ba raddau mae’r hawliau tramwy yn cyflawni anghenion cyfredol y cyhoedd a’u hangenion yn y dyfodol; y cyfleoedd a ddarparwyd gan hawliau tramwy ar gyfer ymarfer corff a dulliau eraill o hamdden awyr agored a mwynhad o ardal yr awdurdod; ac hefyd i ystyried bod hawliau tramwy ar gael at ddefnydd y dall neu’r rhannol ddall yn ogystal â phobl sydd â phroblemau symudedd eraill.

Mae hefyd angen gwerthuso i ba raddau y mae’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy blaenorol wedi ei gyflawni, gwerthuso cyflwr cyfredol y rhwydwaith a chadw cofnod ohono a gwerthuso cyfleoedd i gyfrannu at amcanion Teithio Llesol, amcanion lles a chyflawni cynlluniau a blaenoriaethau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Gwasanaethau Datblygu Economaidd a Chymunedol, “Mae cynnal ac adolygu ein Hawliau Tramwy yn bwysig i sicrhau bod preswylwyr Ceredigion yn eu mwynhau a’u defnyddio. Bydd y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn cynnig y gwybodaeth angenrheidiol i wneud hyn.”

Yn seiliedig ar y wybodaeth yn yr asesiad gwneir penderfyniad ar ddiwygio’r Cynllun ai peidio. Bydd yr adolygiad yn creu cynllun drafft a chynlluniau cyflawni atodol a pharhau â’r broses ymgynghori a chyhoeddi.

Yn sgîl yr adolygiad bydd angen penderfynnu a oes angen cyhoeddi Gynllun Gwella Hawliau Tramwy newydd o fewn 10 mlynedd o gyhoeddi’r cynllun gwreiddiol. Golyga hyn y bydd gan yr awdurdod hyd at fis Medi 2018 i benderfynnu ar hyn; bydd y penderfyniad yn seiliedig ar asesiadau statudol ac ymgynghoriadau â rhanddeiliadau.

Author